O'r Cwm i'r Cyngor: Andrew Teilo yn cael ei ethol i Gyngor Sir Gâr
06/05/2022
Mae'r actor Andrew Teilo wedi ei ethol fel cynghorydd ar Gyngor Sir Gâr.
Mae'r seren Pobol y Cwm wedi chwarae rhan Hywel Llywelyn yn yr opera sebon ers 1990.
Roedd Andrew Teilo Davies yn sefyll dros ward Llangadog yn Sir Gaerfyrddin ar ran Plaid Cymru.
Roedd y canlyniad yn un agos - fe enillodd 446 o bleidleisiau o'i gymharu â 422 i'r ymgeisydd Annibynnol Hywel Morgan.
Cafodd etholiadau lleol eu cynnal ar draws Cymru ddydd Iau, ac mae modd dilyn y canlyniadau diweddaraf ar wasanaeth Newyddion S4C drwy gydol y dydd.
Am fwy o straeon o'r etholiad, ewch i is-hafan Etholiadau Lleol 2022 ar wefan Newyddion S4C.