Etholiadau Lleol 2022: Disgwyl canlyniadau ar draws Cymru
Mae'r cyfri wedi dechrau yn etholiadau lleol Cymru ac mae canlyniadau rhai wardiau ar draws y wlad eisoes wedi eu cyhoeddi.
Wrth i sefyllfa'r cynghorau ddod i'r amlwg ar draws y wlad, isod bydd modd dilyn y canlyniadau'n llawn ar draws yr awdurdodau lleol drwy gydol y dydd.
Gyda 22 o gynghorau sir yng Nghymru, fe fydd 1,234 cynghorydd yn cael eu hethol o'r holl ymgeiswyr.
Ond beth fydd hyn yn ei olygu i sefyllfa'r pleidiau yn y wlad, a fydd Llafur yn parhau i adeiladu ar ei buddugoliaeth yn etholiadau'r Senedd 2021?
A fydd pleidlais y Ceidwadwyr yn cael ei heffeithio gan gyhuddiadau o bartïon yn Downing Street yn ystod y cyfnod clo?
A beth mae hyn i gyd yn ei olygu i Blaid Cymru dair blynedd wedi i Adam Price gymryd yr awenau fel arweinydd y blaid?
Yn ogystal â thynged y prif bleidiau, mae etholiadau lleol ychydig yn wahanol gan fod disgwyl y bydd nifer o aelodau annibynnol yn cael eu hethol.
Canlyniadau
Blaenau Gwent - Llafur yn Cipio
Mae Llafur wedi cipio Blaenau Gwent oddi wrth yr Annibynwyr, mae'r blaid wedi sicrhau 21 o seddi o gymharu â 13 yn 2017.
Gwynedd - Plaid Cymru yn Cadw
Mae Plaid Cymru wedi dal ei gafael ar Gyngor Sir Gwynedd, gan gynyddu’r nifer o aelodau oedd ganddyn nhw ar y cyngor o 41 yn 2017 i 44 yn dilyn yr etholiadau ddydd Iau.
Sir Benfro - Mwyafrif Annibynnol
Mae'r mwyafrif o aelodau sydd wedi eu hethol i Gyngor Sir Penfro yn rhai annibynnol wedi i'r holl seddi gael eu cadarnhau.
Wrecsam - Dim Mwyafrif
Nid oes mwyafrif gan unrhyw blaid ar Gyngor Sir Wrecsam, mae'r rhan fwyaf o gynghorwyr - 23 ohonyn nhw - yn aelodau Annibynnol.
Ynys Môn - Plaid Cymru yn sicrhau mwyafrif
Mae Plaid Cymru wedi sicrhau mwyafrif ar Gyngor Sir Ynys Môn, roedd y blaid yn arwain y cyngor yn flaenorol ond nid oedd ganddi fwyafrif.
Disgwyl canlyniadau:
Abertawe
Bro Morgannwg
Caerdydd
Caerffili
Casnewydd
Castell-nedd Port Talbot
Ceredigion
Conwy
Merthyr Tudful
Pen-y-bont ar Ogwr
Powys
Rhondda Cynon Taf
Sir Ddinbych
Sir Fynwy
Sir Gâr
Sir y Fflint
Torfaen
Prif lun: Cyngor Sir Ynys Môn