Newyddion S4C

Codi cyfraddau llog 'yn taro teuluoedd sydd eisoes yn dioddef'

Newyddion S4C 05/05/2022

Codi cyfraddau llog 'yn taro teuluoedd sydd eisoes yn dioddef'

Mae Banc Lloegr wedi codi cyfraddau llog i 1% - y gyfradd uchaf ers 2009.

Y gobaith drwy godi cyfraddau llog yw ceisio annog pobl i gynilo mwy o arian a gwario llai.  

Ond bydd taliadau morgais uwch yn taro teuluoedd sydd eisoes yn dioddef.

Mae cynnydd mewn cyfraddau llog yn golygu bod benthyg arian yn costio mwy.

Fe allai hynny olygu bod taliadau morgeisi yn cynyddu i filiynau ar draws Prydain.

Mewn cyfnod lle mae prisiau bwyd, biliau, petrol a disel oll ar gynnydd. 

Mae Banc Bwyd Arfon yng Nghaernarfon wedi gweld effeithiau’r cynnydd hynny.

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Trey McCain o Fanc Bwyd Arfon: "Mae wedi bod yn brysurach nag oedden ni'n disgwyl. Fel arfer yn y Gwanwyn 'da ni'n gweld misoedd tawel ar ôl y Gaeaf. Ond eleni 'da ni di gweld cynnydd yn faint o bobl sy'n dod atom ni. 

"Ma' costau byw ar flaen meddyliau pobl pan ma' nhw'n dod i fewn.

"Ma' nhw'n gweld cynnydd ar be' ma' nhw'n dalu dros trydan a nwy, ma' nhw'n gweld cynnydd ar be' ma' nhw'n talu dros bwyd, ma' bron bob dim 'di cael ei effeithio gan hyn.”

Image
S4C
Mae Banc Bwyd Arfon yng Nghaernarfon wedi gweld effeithiau’r cynnydd mewn costau byw.

Mae 15% yn fwy o alw ar y banc bwyd hwn o gymharu â'r llynedd, gyda dros 5% wedi ymweld mewn cwta ddeufis.

“Pan ti'n sbïo ar y ddau fis diwethaf, i'w cymharu nhw gyda'r un misoedd flwyddyn ddiwethaf 'da ni’n gweld cynnydd”, meddai Mr McCain.

"So pan 'da ni'n trio sbïo i mewn i'r dyfodol i weld lle ma' pethau'n mynd 'da ni'n trio paratoi rŵan, achos 'da ni'n gwybod bydd yr Hydref yn lot fwy prysur nag oedden ni'n disgwyl.

"Ein neges ni yw dewch. Mae gennym ni gymorth i gynnig a ma' lot o bobl yn dod o bob rhan o fywyd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.