Newyddion S4C

A1

Gyrrwr beic modur wedi marw mewn gwrthdrawiad ger Abertawe

NS4C 04/05/2022

Mae Heddlu De Cymru'n apelio am wybodaeth wedi i ddyn 26 oed farw mewn gwrthdrawiad ym mhentref Cwmrhydyceirw ger Abertawe nos Fawrth.

Digwyddodd y gwrthdrawiad am tua 19:25 ar Heol Maes Eglwys rhwng beic modur Kawasaki ZX900 gwyn ag Audi A3 du.

Er holl ymdrechion parafeddygon i achub gyrrwr y beic modur, bu farw yn y fan a'r lle.

Roedd y ffordd ar gau am nifer o oriau er mwyn i'r heddlu gynnal eu hymchwiliad.

Mae swyddogion yn gofyn i unrhyw un sydd gyda gwybodaeth am y digwyddiad neu sydd gyda lluniau dashcam i gysylltu gydag Uned Blismona'r Ffyrdd gan ddefnyddio cyfeirnod 2200146630.

Llun: Google

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.