Newyddion S4C

Profion llif unffordd yn y sector gofal: Galwad am eglurder y tu hwnt i fis nesaf

Newyddion S4C 03/05/2022

Profion llif unffordd yn y sector gofal: Galwad am eglurder y tu hwnt i fis nesaf

Mae yna alwadau ar Lywodraeth Cymru egluro'i chynlluniau ar gyfer profion llif unffordd yn y sector gofal y tu hwnt i fis nesa.

Ar hyn o bryd mae'r profion Covid-19 ar gael am ddim i weithwyr a chartrefi gofal, ond mae pryder y gallai hynny ddiflannu wrth i'r rheolau lacio. Ar drothwy'r  etholiadau lleol, mae'r pleidiau yn honni mai eu polisïau nhw fyddai'n gwarchod y sector bregus hwn. 

Yng nghartref preswyl Dolwar, yn Llanbedrog, Gwynedd, mae cofio'r cyfnodau tywyll, ar frig ton Covid-19 yn anodd. 

"Pan ddoth y covid-19 allan gyntaf, yr ofn oedd y peth gwaethaf," meddai Ceri Roberts, rheolwr y cartref.

Mae prinder staff yn stori gyffredin bellach, gyda'r gweithwyr sy'n weddill wedi blino, a chwyno nad yw’r cyflog yn ddigon.

“Yr her fwyf ydi staffio a gwneud yn siŵr bod y preswylwyr yn aros mor saff ag sy’n bosib. Mae o wedi bod yn straen enfawr ar staff."

Ond ynghanol yr ansicrwydd mae cael profion llif unffordd i brofi am covid-19 wedi bod yn arf bwysig i amddiffyn pobl. 

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y byddan nhw am ar gael ddim tan ddiwedd Mehefin. Ond wedi'r cyfnod hwnnw, mae yna farc cwestiwn, gyda gweinidogion yn dweud y bydd unrhyw newidiadau yn adlewyrchiad o ddarlun iechyd cyhoeddus.

Ar drothwy'r etholiadau lleol- mae Fforwm Gofal Cymru yn dweud mai cyllid yw’r pryder mawr. Ond gyda sefyllfa Covid-19 yn gallu newid yn gyflym, mae yna alw am eglurder hefyd am ddyfodol profion llif unffordd.

Dywedodd Mary Wimbury o Fforwm Gofal Cymru : “Oes oes rhaid i gartrefi gofal barhau i ddefnyddio profion llif unffordd, mae’n rhaid i’r llywodraeth barhau i dalu am y profion."

Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig maen nhw wedi bod yn lobio i gynyddu isafswm  tal gofalwyr i £10 yr awr.

Maen nhw wedi galw am fuddsoddiad teg i awdurdodau lleol, a'i bod am gefnogi gofalwyr drwy sefydlu cymorth iechyd meddwl.

Mae Plaid Cymru'n dweud eu bod nhw am sefydlu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol o dan arweiniad llywodraeth leol, ac y byddai gofal o'r fath am ddim.

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd yn dweud eu bod am weld un gwasanaeth cenedlaethol i ddiwallu anghenion gofal pobl Cymru. Maen nhw hefyd am weld cysondeb mewn cyflogau ar draws y sector.

Ac mae Llafur Cymru eisoes wedi cyflwyno cyflog byw real i ofalwyr a bydd taliad o £1,000 arall ar y ffordd. Ychwanegodd llefarydd eu bod yn sefydlu comisiwn i edrych ar sefydlu gwasanaeth gofal am ddim.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.