Newyddion S4C

Rhai o gefnogwyr ifainc Wrecsam yn achosi 'anhrefn' medd yr heddlu

03/05/2022
Y Cae Ras, stadiwm tîm pêl-droed Wrecsam [Wrexham AFC]
Y Cae Ras, stadiwm tîm pêl-droed Wrecsam

Mae Heddlu'r Gogledd wedi beirniadu ymddygiad rhai o gefnogwyr ifainc clwb pêl-droed Wrecsam gan eu cyhuddo o achosi 'anhrefn'.

Yn ôl  swyddogion sy'n plismona'r gemau, mae grwpiau o 40-50 o unigolion yn mynd i gemau yn rheolaidd yn gwisgo dillad tywyll a gorchudd dros eu hwynebau.

Yn ôl yr heddlu, llanciau ifanc yn bennaf rhwng 14 ac 17 oed sy'n achosi'r anhrefn. 

Maen nhw'n nodi hefyd fod y criw yn ymddwyn yn fygythiol tuag at gefnogwyr clybiau eraill.

Mae'r heddlu'n dweud eu bod nhw wedi recordio tystiolaeth sy'n dangos yr unigolion hyn yn targedu grwpiau llai o gefnogwyr mewn lleoliadau oddi ar y cae chwarae cyn ymosod arnyn nhw.

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Simon Barrasford: "Dydyn ni ddim yn ceisio pardduo enw da cefnogwyr ifanc, ond mae nifer sylweddol yn achosi'r math hwn o anhrefn.

"'Dan ni'n sôn am droseddu parhaus, yn enwedig yn y gemau oddi cartref. Mae ymddygiad fel hyn yn dangos elfen o gynllunio a threfnu o flaen llaw.

“Nid cefnogwyr pêl-droed ydy'r rhain. Y prif symbyliad yw achosi cymaint o anhrefn â phosib cyn, yn ystod, ac ar ôl gemau."

Yn ôl yr heddlu, maen nhw wedi arestio rhai unigolion a'u cyhuddo o droseddau sydd ddim yn gysylltiedig â phêl-droed.

Dywedodd Arolygydd Tref Wrecsam, Luke Hughes: “Mae'r bobl ifanc nid yn unig yn troseddu mewn gemau ond hefyd yn ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol cyffredinol yng nghanol y dref.

“Rhaid i mi bwysleisio bod gan rieni rôl bwysig i chwarae yma. Hoffwn annog rhieni i gymryd mwy o ymdrech i wybod gyda phwy mai eu pobl ifanc yn ymgysylltu â nhw, gyda phwy maen nhw'n teithio i gemau pêl-droed a beth maen nhw'n gwneud yn yr hwyr ac ar ddyddiau gêm."

Llun Gemma Thomas

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.