Newyddion S4C

Disgwyl i'r Goruchaf Lys yn yr UDA ddiddymu'r hawl i gael erthyliad

03/05/2022
Protest

Mae adroddiadau yn honni y bydd Goruchaf Lys yr UDA yn pleidleisio o blaid diddymu hawl menywod Americanaidd i gael erthyliad. 

Yn ôl Politico, mae dogfen sydd wedi'i rhannu gyda'r wasg yn awgrymu bod aelodau'r llys yn bwriadu cael gwared â deddfwriaeth Roe v Wade. 

Cafodd Roe v Wade ei basio gan y Llys yn 1973 gan sefydlu'r hawl i erthyliad o fewn cyfansoddiad yr UDA. 

Yn y ddogfen, sydd yn ddrafft o 'farn' y llys, dywedodd un aelod fod Roe v Wade wedi bod yn "hollol anghywir o'r dechrau." 

Mae'r newyddion wedi arwain at ymateb chwyrn gan nifer o wleidyddion gan gynnwys y cyn Ysgrifennydd Gwladol Hillary Clinton. 

Dywedodd Ms Clinton y bydd y penderfyniad posib yn "ymosodiad uniongyrchol ar urddas, hawliau a bywydau menywod." 

Mae nifer eraill o fewn y Blaid Ddemocrataidd wedi mynegi pryder dros y penderfyniad gan gynnwys Bernie Sanders, Elizabeth Warren a Nancy Pelosi. 

O fewn awr ar ôl i'r ddogfen gael ei rhannu, fe wnaeth protestwyr ymgynnull tu fas i'r llys yn galw am amddiffyn hawliau menywod i gael erthyliad.

Darllenwch y stori'n llawn yma

Llun: Getty Images / Wochit 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.