Newyddion S4C

Yr Etholiadau Lleol: Pa bynciau sy’n bwysig i chi?

Y Byd ar Bedwar - *HEN* 02/05/2022

Yr Etholiadau Lleol: Pa bynciau sy’n bwysig i chi?

Gyda'r ymgyrchu gwleidyddol ar gyfer yr etholiadau lleol yn dirwyn i ben yr wythnos hon, mae rhaglen Y Byd ar Bedwar wedi gofyn i bobl ar lawr gwlad beth sydd yn bwysig iddyn nhw wrth iddynt ystyried polisïau'r pleidiau:

Mae Aleena Khan yn fenyw Fwslimaidd o Gaerdydd.

Yn ôl Aleena, cynrychiolaeth deg fydd y prif beth fydd hi’n ei ystyried wrth fwrw pleidlais.

“Fel person ifanc, person ifanc o liw, ac fel dynes, dwi’n teimlo fod y cynghorau yn ystradebol o wyn a hen.

“Dyna dwi’n ei feddwl pan dwi’n edrych ar ein cynghorau ni.” 

Image
Aleena Khan
Mae Aleena Khan eisiau gweld rhagor o fenywod fel cynghorwyr

Ar hyn o bryd, dim ond 28% o gynghorwyr Cymru sy’n fenywod, a dim ond chwe arweinydd cyngor sir allan o 22. Mae llai na 2% o gynghorwyr yn ddu neu o gefndir lleiafrif ethnig.

Mae Aleena’n siomedig gyda’r ystadegau hyn. “Dw i ddim yn teimlo fel bod fy llais yn cael ei ystyried rhyw lawer. 

“Mae’r rhain yn bobl sy’n gwneud dewisiadau ar ran Cymru gyfan, a chymunedau lleol. Os nad ydy llais a barn pawb yn ein cymdeithas ni’n cael eu hystyried, rydych chi’n colli mas ar lawer o safbwyntiau a’r newid mae pobl ei eisiau.”

Gwastraff 

Aled Johnson yw’r drydedd genhedlaeth i ffermio ar ei fferm ym Mrechfa yn Sir Gâr, ac mae’n dweud fod pobl sy’n gadael gwastraff ar dir ei fferm wedi bod yn broblem ers blynyddoedd. Mae wedi cael dau achos o uniglion yn gollwng sbwriel yno yn yr wythnosau diwethaf.

Image
Aled Johnson
Mae Aled Johnson yn poeni am bobol yn gadael gwastraff ar dir fferm

“Wel tro ma’ nawr, roedd gwely, hen focs ci,  gwely person, dau neu dri cwdyn pridd a gweddillion o waith adeiladu.

Mae ffermio’n gallu bod yn ddigon anodd fel mae hi’n barod. Mae rhaid i ni gael gwared ar ein pethau ni yn gyfreithlon a chael gwaith papur i ddweud bo’ ni di cael gwared â fe, so pam ddylai neb arall? Mae’n boenus dod yn ôl i rywbeth fel hyn.”

Mae Aled yn cwestiynu os ydy’n cael gwerth ei arian am y dreth cyngor y mae’n ei dalu.

Bydd unrhyw ymgeisydd sy’n ymrwymo i fynd i’r afael â gwastraff yn yr etholiadau lleol yn dwyn perswâd ar Aled i roi ei bleidlais ddydd Iau.

Cyfleoedd gwaith

Bydd pobl 16 ac 17 oed yn gallu pleidleisio mewn etholiadau lleol am y tro cyntaf eleni. Un o’r rheiny yw Begw Elain o Ddyffryn Nantlle.

Begw sy’n gyfrifol am reoli cyfryngau cymdeithasol ei chlwb pêl-droed lleol, CPD Dyffryn Nantlle. Fe hoffai ddilyn gyrfa yn y maes, ond ar hyn o bryd dyw hi ddim yn teimlo fel bod hyn yn opsiwn iddi yn lleol.

Mi fyddwn i wrth fy modd yn gwneud gwaith cyfryngau chwaraeon yn y dyfodol, ond yn Nyffryn Nantlle, yng Ngogledd Cymru, dydy o ddim yn bosib o gwbl, a dwi erioed wedi ystyried aros yn Nyffryn Nantlle am byth, achos bod diffyg swyddi yma.”

Mae brawd a chwaer Begw wedi gadael yr ardal er mwyn mynd i’r brifysgol ond oherwydd y diffyg swyddi yn eu hardal, dyw hi ddim yn obeithiol y byddan nhw’n dychwelyd yno. 

“Dw i methu gweld nhw’n dod yn ôl,” meddai. “‘Da ni ond yn un esiampl o un tŷ yn Nyffryn Nantlle, ond mae’n digwydd ar bob stryd. Does dim swyddi ar gael a dwi’n meddwl y bydd hi’n broblem enfawr yn y dyfodol, achos os ydy pobl ifanc yn gadael, mae’r iaith yn mynd, mae hanes yn mynd, a dwi’m yn gwybod beth ddaw o Ddyffryn Nantlle.”

Y Byd ar Bewdar, S4C nos Lun 20.00

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.