Syr Lindsay Hoyle: ‘Mae angen gweddnewid San Steffan’

Mae Llefarydd Tŷ’r Cyffredin, Syr Lindsay Hoyle, wedi galw am “weddnewid” San Steffan yn dilyn nifer o sgandalau diweddar.
Mewn erthygl yn The Observer, dywedodd y Llefarydd fod angen adolygiad ar sut mae San Steffan yn gweithredu “ar frys.”
Daw hyn yn sgil nifer o honiadau o gamymddwyn rhywiol a bwlian.
Yn ogystal, mae’r Ceidwadwr, Neil Parish, yn ymddiswyddo fel Aelod Seneddol ar ôl iddo gyfaddef ei fod wedi gwylio pornograffi yn Nhŷ’r Cyffredin.
Darllenwch fwy yma.