Cyhuddo dyn 38 oed o lofruddiaeth yng Nghastell-nedd
Mae Heddlu De Cymru wedi cyhuddo dyn 38 oed o lofruddio, wedi i gorff gael ei ddarganfod mewn eiddo yn Heol Catwg yng Nghastell-nedd ar 27 Ebrill.
Mae Emmett Morrison o Gaewern wedi ei gyhuddo o lofruddio Timothy Dundon oedd yn 66 oed.
Fe fydd Mr Morrison yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Abertawe ddydd Llun.
Mae teulu Mr Dundon yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol yr heddlu.
Mae’r heddlu yn parhau i apelio am wybodaeth am y digwyddiad.
Dywedodd yr Uwch Swyddog Ymchwilio, y Ditectif Uwcharolygydd Darren George; “Mae’n amlwg fod cyhuddo rhywun gyda llofruddiaeth Mr Dundon yn ddatblygiad arwyddocaol yn yr ymchwiliad. Rwy’n dal i annog unrhyw un sydd â gwybodaeth, i gysylltu gyda ni.
“Hoffwn ddiolch i’r gymuned leol am eu cefnogaeth yn ystod yr ymchwiliad hyd yn hyn.
“Bydd ein presenoldeb amlwg yn yr ardal yn parhau am y dyddiau nesaf.”