Newyddion S4C

Sioeau bach yn 'ffenest siop' i'r diwydiant amaeth

Sioeau bach yn 'ffenest siop' i'r diwydiant amaeth

Mae dychweliad  y sioeau bach ar ôl dwy flynedd o gyfyngiadau Covid-19 yn "ffenest siop" i'r diwydiant amaeth.

Dyna ddywed Undeb Amaethwyr Cymru wrth i’r paratoadau munud olaf gael eu gwneud ar gyfer Sioe Nefyn ddydd Llun.

"Mae hynny yn gyfle rŵan i ni gymdeithasu fel diwydiant, a fel pobl cefn gwlad 'lly," meddai Llywydd yr Undeb, Glyn Roberts.

"A hefyd dwi'n meddwl bod hi yn bwysig bod ni yn rhoi croeso i'r cyhoedd tu allan i amaethyddiaeth, i ddod i weld y ffenest siop diwydiant amaeth yn ein sioeau ni."

Ddydd Llun, fe fydd Sioe Nefyn yn ôl wedi dwy flynedd hir - y sioe gyntaf yng nghalendr sioeau bach y gogledd.

Image
Sioe
Sioe Nefyn yw'r sioe gyntaf o'r flwyddyn 

Yn sgil y pandemig, fe gafodd yr un olaf ei gynnal yn 2019 ond bellach mae'r trefnwyr yn barod am y sioe ac mae cryn edrych ymlaen wedi cyfnod cyhyd.

"Maen deimlad braf ofnadwy", meddai Eirian Lloyd Hughes, trefnydd Sioe Nefyn.

"Naethon ni benderfynu'n eitha' hwyr yn y tymor pan oedden ni'n gweld y rheolau'n dechrau llacio wedyn mae 'di bod yn bach o ryw frys i gael pethau 'di trefnu.

"Ond ma' dod yma heddiw a jyst gweld bob dim yn ei le, mae'n codi calon rhywun a deud y gwir."

O gynnal y sioeau bach unwaith eto eleni, y gobaith ydy y bydd modd cynnal y Sioe Fawr yn Llanelwedd, sef prifwyl answyddogol y ffermwyr.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.