'Anhrefn' mewn maes awyr yn Israel wrth i deulu gludo ffrwydryn milwrol

Bu anrhefn ym mhrif faes awyr Israel nos Iau wedi i deulu Americanaidd geisio dod â hen ffrwydryn milwrol adref gyda nhw.
Mae fideos ar gyfryngau cymdeithasol yn dangos pobl yn rhedeg a chuddio ym maes awyr Ben Guiron yn Jerwsalem ar ôl i'r ffrwydryn gael ei ddarganfod.
תיעוד: בהלה בנתב"ג בעקבות חשש מחפץ חשוד. לאחר בדיקות הוכרז על חזרה לשגרה@sharonidan pic.twitter.com/pOMLp3oaeC
— כאן חדשות (@kann_news) April 28, 2022
Yn ôl y Metro, roedd y teulu wedi casglu'r ffrwydryn wrth ymweld ag Ucheldiroedd Golan, ardal lle bu Israel a Syria yn ymladd ei gilydd yn y 1960au.
Cafodd y maes awyr ei wacau ar ôl i'r ffrwydryn gael ei darganfod, gan achosi panig ymysg teithwyr.
Llwyddodd y teulu i ddal eu hediad yn ôl i'r UDA wedi i'r awdurdodau eu rhyddhau ar ôl eu cwestiynu.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Awdurdod Meysydd Awyr Israel