Newyddion S4C

Covid-19: Llywodraeth y DU wedi torri'r gyfraith drwy fethu â gwarchod preswylwyr gofal

Sky News 27/04/2022
Ysbyty yn brwydro yn erbyn Covid-19

Mae'r Uchel Lys wedi dyfarnu fod Llywodraeth y DU wedi torri'r gyfraith drwy fethu â gwarchod mwy na 20,000 o breswylwyr cartrefi gofal a fu farw ar ôl dal Covid-19.

Cafodd yr achos ei ddwyn gan Dr Cathy Gardner a Fay Harris a gollodd eu tadau wedi iddynt brofi'n bositif am coronafeirws.

Mewn dyfarniad ddydd Mercher, daeth yr Arglwydd Ustus Bean Mr Ustus Garnham i'r casgliad fod polisïau oedd wedi'u cynnwys mewn dogfennau ym mis Mawrth a dechrau Ebrill 2020 yn anghyfreithlon.

Dywedodd y barnwyr fod y llywodraeth wedi methu ag ystyried y risg i breswylwyr hŷn a bregus a throsglwyddiad o'r feirws gan bobl heb symptomau.

Yn ystod y gwrandawiad, fe ddywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth y tu allan i'r llys fod "pob marwolaeth yn drasiedi" a'u bod wedi "gweithio'n ddiflino i amddiffyn y cyhoedd".

Darllenwch fwy yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.