Disgwyl i Boris Johnson osgoi dirwy am barti honedig yng ngardd Rhif 10

Mae disgwyl i Boris Johnson osgoi dirwy am fynychu parti honedig yn Rhif 10 Downing Street, yn ôl arbenigwr cyfreithiol.
Mae Heddlu'r Met yn parhau i ymchwilio i bartïon honedig yn Rhif 10 a Whitehall yn ystod y cyfnodau clo, ond ni fydd y llu yn cyhoeddi rhagor o ddirwyon tan ar ôl yr etholiadau lleol.
Mae nifer o aelodau staff wedi derbyn dirwyon am fynychu digwyddiad yng ngardd Rhif 10 ym mis Mai, pan gafodd 100 o staff eu gwahodd i "wneud y mwyaf o'r tywydd braf."
Mae'r Prif Weinidog eisoes wedi derbyn dirwy yn sgil ymchwiliad yr heddlu, ond yn ôl Adam Wagner, sy'n arbenigwr ar ddeddfwriaeth Covid-19, fe all Mr Johnson osgoi dirwy yn yr achos hwn.
Mae Mr Johnson dal i wynebu pwysau i ymddiswyddo ac mae un AS Ceidwadol blaenllaw wedi rhybuddio y gall y Ceidwadwyr gael eu gosbi am sefyllfa 'Partygate' yn yr etholiadau lleol fis nesaf.
Dywedodd Steve Baker, wnaeth alw ar Boris Johnson i ymddiswyddo ddydd Iau, y bydd pleidleiswyr yn mynegi eu dicter yn y blychau pleidleisio.
Darllenwch fwy yma.