Newyddion S4C

'Lleiafrif bach' yn parhau i adael llanast yng ngefn wlad

'Lleiafrif bach' yn parhau i adael llanast yng ngefn wlad

Mae'r "rhan fwyaf" o gerddwyr yn Eryri yn gwerthfawrogi'r angen i gadw llwybrau'n daclus pan maen nhw yno, a dim ond "lleiafrif bach" sy'n gadael llanast ar eu holau.

Dyna'r neges gan rai o'r gwirfoddolwyr sy'n cadw llwybrau mwyaf poblogaidd y parc cenedlaethol yn daclus, a hynny ers y twf sylweddol yn nifer yr ymwelwyr dros y blynyddoedd diwethaf.

Dechreuodd mudiad Caru Eryri drefnu teithiau cerdded a chasglu sbwriel llynedd, ac maen nhw wrthi unwaith eto'n wythnosol dros yr haf eleni yn gwneud yr un peth.

"Mae'r gwirfoddolwyr sy'n dod mas gyda ni yn gret, maen nhw'n rhoi lan eu hamser eu hun i jyst dod mas i ofalu am y llefydd maen nhw'n caru," meddai Alf Bodenham, un o'r casglwyr.

 Mae gwaith y gwirfoddolwyr yn cynnwys mynd allan hyd at deirgwaith yr wythnos i rai o ardaloedd mwyaf poblogaidd Eryri, gan gynnwys Yr Wyddfa, Dyffryn Ogwen a Beddgelert.

Yno fe fyddan nhw'n casglu sbwriel sydd ar hyd ochr y llwybrau, yn ogystal a gwneud rhywfaint o waith i atal erydu, fel clirio draeniau, a siarad gyda cherddwyr.

Image
Gwirfoddolwyr
Mae gwirfoddolwyr Caru Eryri yn casglu sbwriel yng nghefn gwlad hyd at deirgwaith yr wythnos  

Cafodd problemau gyda chadw'r llwybrau'n daclus eu codi eto'n ddiweddar, gyda rhybudd i bobl ddefnyddio cyfleusterau toiled cyn dechrau ar eu taith yn dilyn nifer o adroddiadau o garthion dynol mewn mannau.

Ond sbwriel llawer mwy cyffredin ydi beth mae'r gwirfoddolwyr yn dod ar ei draws gan amlaf, gydag Alf yn dweud eu bod nhw weithiau'n gallu casglu hyd at 40kg rhyngddyn nhw ar ddiwrnod prysur.

"Ar ôl lockdowns roedd lot mwy o bobl yn 'neud staycations, felly oedd mwy o bwysau ar Yr Wyddfa a mwy o bobl ar y llwybr," meddai.

"Y peth mwya' ni'n pigo lan yw jyst bwyd - lot o fananas, orennau, wrappers creision - ond hefyd lot o tissues, a dillad fel menyg, hetiau. Ni'n gweld pethau bach od hefyd - ti wastad yn meddwl 'sut mae hwn wedi cyrraedd lan i'r Wyddfa?'"

Yn ol Neil Gwilt, un arall o'r gwirfoddolwyr, mae baw ci yn beth arall maen nhw'n dod ar ei draws yn aml.

"Maen nhw'n ei roi mewn bagiau, ond dydyn nhw ddim yn mynd ag o i ffwrdd, jyst yn ei guddio," meddai.

"Rydyn ni'n trio cadw llwybrau'r mynydd yn lan a thaclus. Byddai'n dda os oedd pobl yn mynd a phethau gyda nhw ac unwaith maen nhw wedi gorffen, yn ei ddod ag o 'nol lawr eto - dydi o'n costio dim."

Er hynny, mae Alf yn dweud fod cerddwyr ar y cyfan yn croesawu eu neges, a llawer o'r rheiny sy'n pasio yn diolch iddynt am eu gwaith.

"Mae pobl yn bositif iawn - falle mae mwy o ymwybyddiaeth mas 'na nawr am beth yw effaith pobl yn dringo'r Wyddfa ar ôl ni 'neud hwn, achos mae pobl yn gweld ni drwy'r amser, ac mae'n dechrau cael effaith dda," meddai.

"Mae lot o bobl yn cael lot mas o'r sgyrsiau, pobl yn dod 'ma ddim yn gwybod beth mae'r Wyddfa fel, bod o'n fynydd eitha' mawr a bod yn rhaid i chi fod yn barod am y tywydd a beth sydd yma, bod dim bins - dyw e ddim yn barc fel yna.

"Neges ni yw bod pobl angen mynd a phopeth adre maen nhw wedi dod gyda nhw i'r mynydd."

Image
Caru Eryri
Yn ôl gwirfoddolwyr Caru Eryri, mae nifer o bobl yn eu diolch am eu gwaith

Un o Wolverhampton ydi Neil, ond mae'n teithio i Eryri bron bob wythnos i helpu gyda'r gwaith casglu sbwriel ac yn cael boddhad mawr o wneud hynny gyda'i gyd-wirfoddolwyr.

"Maen nhw'n grŵp da o bobl, yn gyfeillgar, hapus, ac mae'n ddiwrnod hyfryd allan," meddai.

"Dwi'n mwynhau gogledd Cymru a dwi'n hoffi cefn gwlad. Dwi'n hoffi'r ddaeareg, mynd am dro - mae mor syml â hynny."

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.