Cymru i groesawu o leiaf 1,500 o bobl o Wcráin i'r wlad
Fe fydd o leiaf 1,500 o bobl o Wcráin yn cael eu croesawu yng Nghymru, yn ôl y nifer o fisâu sydd wedi'u dosbarthu.
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ffigurau diweddaraf y cynllun Cartrefi i Wcráin.
Hyd yn hyn, mae 1,500 o fisâu wedi’u rhoi; 390 ohonynt wedi’u noddi gan Lywodraeth Cymru, a’r gweddill wedi’u noddi gan unigolion yng Nghymru.
Cafodd y cynllun ei lansio ar ddiwedd mis Mawrth ar ôl i Gymru droi’n uwch-noddwr.
Mae’r cynllun yn sicrhau llety am o leiaf chwe mis i ffoaduriaid.
Byddant yn gallu byw a gweithio yn y Deyrnas Unedig am hyd at dair blynedd, ac yn medru elwa ar ofal iechyd a gwasanaethau cyhoeddus eraill.
Mae’n hysbys bod tua 10,000 o Gymry wedi cofrestru eu bwriad i gynnig llety.
Yn ôl datganiad y Llywodraeth, mae nifer y bobl sydd wedi gwneud cais i ddod i Gymru drwy’r cynllun yn parhau i gynyddu hefyd.
Eglurodd Jane Hutt AS mewn datganiad ysgrifenedig fod y system "gymhleth" yn arafu’r broses o roi fisâu.
Er hyn, mae'n dweud fod disgwyliad i Lywodraeth y DU i gyflymu’r broses i 48 awr.
Yn y cyfamser, mae DEC Cymru wedi cyhoeddi bod Apêl Ddyngarol Wcráin bellach wedi codi dros £12 miliwn, a dros £300 miliwn ar lefel y DU.
Fe fydd yr arian yn cael ei defnyddio i roi cymorth i deuluoedd sydd wedi eu heffeithio gan yr argyfwng parhaus.
Cred y Cenhedloedd Unedig bod tua phum miliwn o bobl wedi ffoi Wcráin i wledydd eraill ers dechrau’r rhyfel.
Llun: DEC