Newyddion S4C

Tocynnau Eisteddfod Genedlaethol ar werth am y tro cyntaf ers tair blynedd

21/04/2022
Eisteddfod Gudd

Gyda dim ond 100 diwrnod i fynd tan Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion, mae tocynnau'r Maes bellach ar gael i'w prynu o heddiw ymlaen. 

Dyma'r tro cyntaf i'r Eisteddfod gael ei chynnal ers cychwyn y pandemig, ac er bod yr aros wedi bod yn hir, mae'r wythnos yn Nhregaron ym mis Awst yn dechrau agosáu. 

Er bod costau byw yn cynyddu, o danwydd i chwyddiant, bydd prisiau tocynnau yn parhau'r un fath ag Eisteddfod Sir Conwy yn 2019.

'Awchu i gynnal yr Eisteddfod'

Dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses, ei bod hi'n awyddus i "ddiolch o waelod calon i drigolion Ceredigion a’n gwirfoddolwyr i gyd am eu hamynedd a’u brwdfrydedd dros y ddwy flynedd diwethaf". 

"Maen nhw’n dal i awchu i gynnal yr Eisteddfod", meddai.

Ychwanegodd Betsan Moses bod sawl newid wedi digwydd ers Seremoni Cyhoeddi Eisteddfod 2020 yn Aberteifi yn ôl yn 2019.

"Cafwyd perfformiad arbennig o gân newydd sbon gan y ddau frawd lleol, Richard ac Wyn, Ail Symudiad, ar y Maen Llog fel rhan o’r seremoni.  Mae’n anodd credu ein bod ni wedi colli’r ddau dros y flwyddyn ddiwethaf."

Eleni fydd y tro cyntaf i ymwelwyr allu argraffu tocyn Maes neu ei ddangos ar eu ffôn er mwyn cael mynediad fel rhan o nod yr Eisteddfod i anelu am allyriadau sero net a dim gwastraff erbyn 2025. 

Mae tocynnau dyddiol neu wythnosol y Maes bellach ar gael ar wefan yr Eisteddfod, a bydd gwybodaeth am docynnau cyngherddau a gweithgareddau nos yn cael eu cyhoeddi maes o law. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.