Newyddion S4C

Pryder am gwsmeriaid yn peidio â dod i fwytai ar y funud olaf

Newyddion S4C 20/04/2022

Pryder am gwsmeriaid yn peidio â dod i fwytai ar y funud olaf

Wrth i dymor y gwyliau gyrraedd mae nifer o fwytai'n cwyno am y cwsmeriaid sy'n penderfynu peidio â dod ar y funud olaf - heb hyd yn oed ffonio i ddweud. 

Mae tŷ bwyta yn Llŷn yn dweud eu bod wedi colli £20,000 mewn un haf o ganlyniad - ac mae'r corff sy'n cynrychioli lletygarwch, Hospitality UK, yn dweud mai anghwrteisi ydy peidio â dod heb ddweud.

"Dwi 'di cael llwyth ddim jyst yn troi fyny os mae'r haul allan neu rhywbeth fel na, maen nhw 'di jyst aros ar y traeth a ddim yn gadael i ni wybod a 'dan ni ddim yn gallu llenwi'r spot," meddai Heidi Bakewell, rheolwraig tafarn a bwyty'r Bryncynan yn Nefyn.

"Dwi 'di llenwi lot o fyrddau, 70%, ond dal i golli allan ar £20,000 dros yr haf i gyd.

"Os bydd pobol yn ffonio mewn a ddim yn troi fyny rhaid i ni gadw llyfr jyst so dwi'n gwbod, mae o 'di trio bwcio o'r blaen a ddim 'di troi fyny felly dwi ddim yn cymryd booking.

"Dwi'n deutho fo ti'n gallu cerdded i mewn a gawn ni weld os oes 'na fwrdd ar yr off chance ond os dwi ddim dwi ddim."

Image
Heidi
Mae Heidi Bakewell yn rheolwraig tafarn a bwyty'r Bryncynan yn Nefyn.

'Problem enfawr'

Mae'n rhywbeth sy'n digwydd yn rhy aml o lawer ym marn Hywelis Thomas-Howells, rheolwraig Bwyty Môr yn Y Mwmbwls, Abertawe. 

"Ar ôl yr haf 2020, dyna pryd dwi'n meddwl roedd llawer o bobol yn blanket bookio tablau yn y gymuned leol, felly roeddyn nhw'n dod ar wyliau, falla trio bwcio fel pum neu chwe tabl mewn bwytai gwahanol a wedyn ar y noson oeddyn nhw jyst yn penderfynu pa fwyty oeddyn nhw isio mynd i," meddai.

"Roedd hynny'n broblem enfawr a doeddyn nhw ddim hyd yn oed yn galw i ddweud."

Mae ganddyn nhw hefyd restr o bobl sydd wedi'u siomi drwy beidio â dod.

Erbyn hyn maen nhw'n cymryd rhif y cerdyn banc, a bydd disgwyl i bobl dalu blaendal - os na ddôn nhw.

"Ni'n cymryd y cerdyn, ni jyst yn cymryd y cerdyn ac os 'di'n dod i bwynt lle bo ni angen, ni jyst wedyn yn chargio'r card, ac mi fyddwn ni'n dweud wrth y cwsmer bod ni'n mynd i 'neud hwnna.

"Y ffordd neisa i neud e ydy jyst cymryd y cerdyn, deud fydd dim blaendaliad nes bydd late cancellation neu no show."

Image
No Shows
Mae Hywelis Thomas-Howells yn rheolwraig ar Fwyty Môr yn Y Mwmbwls.

'Dipyn yn gas'

Fu'r ddwy flynedd diwethaf ddim y gorau i lawer o fwytai - yn amlwg mae cysgod Covid wedi gadael ei ôl, ac mae pris bwyd yn codi, felly hefyd pris trydan a nwy.

Ar ben hynny mae cyfradd y dreth ar werth (TAW) wedi codi'n ôl i 20%. 

Mae prinder staff yma ac acw ac mae pobol yn dal i ganslo o achos Coronafeirws.

Andrew Evans ydy perchennog gwesty a spa St Brides yn Sir Benfro ac mae o hefyd yn aelod o gorff lletygarwch Hospitality UK.

"Nawr ac yn y man mae rhywun ddim yn troi lan, ond os ydy hynny'n digwydd unwaith mae'r fflag lan 'da ni wedyn ... wel "be cautious" yn dyfe, mae'n rhaid edrych ar ôl y busnes.  Bad manners yw e yn dyfe.

"Os y' chi'n gweud chi'n mynd rywle ewch 'na.  Os oes rhywun yn sâl mae rhyw beth yn digwydd, ni'n deall, ond os 'di pobol ddim yn troi lan mae hynny dipyn yn gas."

Neges llawer o fwytai felly, o drefnu ac yna dod. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.