Theresa May yn beirniadu cynllun i anfon ceiswyr lloches i Rwanda

Mae’r cyn Brif Weinidog Theresa May wedi beirniadu cynlluniau i anfon ceiswyr lloches i Rwanda ar sail “cyfreithlondeb, ac ymarferoldeb".
Dywedodd ei bod yn ofni y gallai’r cynllun wahanu teuluoedd a chynyddu masnachu pobl, yn arbennig menywod a phlant.
Drwy’r cynllun, bydd ceiswyr lloches yn cael eu hanfon i Rwanda er mwyn i'w cais am loches gael ei brosesu. Y nod, yn ôl Llywodraeth Y Deyrnas Unedig yw gostwng y niferoedd sy'n croesi'r môr i dde ddwyrain Lloegr yn anghyfreithlon.
Mae disgwyl i’r ceiswyr lloches cyntaf gael eu hanfon i Rwanda fis Mai. Ond gallai'r amserlen newid pe bai heriau cyfreithiol.
Darllenwch y stori'n llawn yma.