Milwyr Cymreig ‘yn barod’ i amddiffyn Ewrop rhag Rwsia

Milwyr Cymreig ‘yn barod’ i amddiffyn Ewrop rhag Rwsia
Mae catrawd o filwyr Cymreig “yn barod” i amddiffyn Ewrop rhag ymosodiad gan Rwsia, petai Vladimir Putin yn troi ei olygon at wledydd eraill.
Wrth arwain ymgyrch NATO ger y ffin â Rwsia yn Estonia, dyna oedd y farn gadarn ymhlith milwyr a swyddogion milwrol catrawd y Cymry Brenhinol.
Mae tua 850 o filwyr y catrawd Cymreig yn arwain bataliwn NATO o 1,200 sydd hefyd yn cynnwys milwyr o Ddenmarc a Ffrainc.
Ynghyd â dros 1,000 o luoedd Estonia, maen nhw wedi bod yn ymarfer a pharatoi ar gyfer y posibilrwydd o ymosodiad gan Rwsia ar wledydd y Baltig dros y dyddiau diwethaf.
Cafodd camerau Newyddion S4C weld y paratoadau yn ogystal â’r cyfle i siarad â rhai o’r milwyr Cymreig sydd yno.
Dywedodd y ffiwsilwr Jack Wilkes, sydd yn dod o Dywyn, ei fod e’n hyderus bod y grym a’r gallu gan y milwyr yno i wrthsefyll unrhyw fygythiad gan fyddin Rwsia: “Petai’r Rwsiaid yn ymosod, allwn ni ymladd nôl. Dwi’n siŵr o hynny.”
Ymosodiad
Ac adlewyrchu’r hyder ymhlith ei ddynion mae prif swyddog y Cymry Brenhinol, Ru Streatfeild: “Ein rôl yma yw rhwystro ymosodiad a bod yn barod i amddiffyn. Beth bynnag fydd yn digwydd, ry’n ni yn barod amdano fe. Dyna holl bwrpas yr ymarfer yma – ac mae wedi rhoi hyder i bawb. Ry’n ni’n barod.”
Mae swyddogion amddiffyn Estonia wedi rhybuddio bod angen dyblu presenoldeb NATO yn y wlad er mwyn eu diogelu nhw rhag bygythiad Rwsia. Dywedodd Kusti Salm, ysgrifennydd parhaol ar amddiffyn y wlad wrth Newyddion S4C bod y bygythiad hwnnw “yn gwbl glir”.
Mae NATO wedi cryfhau ei phresenoldeb yn nwyrain Ewrop. Ers dechrau’r rhyfel yn Wcrain, mae niferoedd milwyr Nato yn y rhanbarth wedi cynyddu o 13,000 i 40,000.
Amddiffyn
Ond dyw’r gynghrair heb gytuno i alwadau cyson Arlywydd Wcrain, Volodymyr Zelenskyy,i anfon milwyr yno i helpu i amddiffyn y wlad.
Yn ôl Rhydian Stephens o Rydaman, mae hynny yn rhwystredig: “Fi’n credu mae lot o bobl yn y fyddin mo’yn helpu pobl Wcrain.
“Ond obviously, nid ni sydd yn neud y penderfyniadau yna.
”Ni’n gweld beth sydd yn digwydd yn y newyddion a ni mo’yn helpu ond mae’n rhaid i ni jesd gwneud swydd ni yma. Mae’n bwysig i ni fod yma yn Estonia hefyd.”
Wrth ymarfer, bwledi gwag nid bwledi byw oedd yn cael eu saethu.
Ond wrth wneud hynny mor agos at y ffin, y bwriad yw rhoi neges glir i Rwsia, petaen nhw’n ystyried croesi’r ffin i Estonia, bod yna fwledi byw a byddinoedd yn barod amdanyn nhw.
Llun: Y milwr Jack Wilkes, o Dywyn, yn Estonia