Cwpan y Byd: Cymru i chwarae yn erbyn naill a'r Alban neu Wcráin ar 5 Mehefin
Mae FIFA wedi cadarnhau mai dydd Sul, 5 Mehefin fydd y dyddiad y bydd Cymru yn chwarae yn erbyn naill ai yr Alban neu Wcráin yn rownd derfynol gemau ail gyfle Cwpan y Byd.
Daeth cadarnhad y bydd y rownd gynderfynol rhwng yr Alban ac Wcráin yn cael ei chwarae ar 1 Mehefin, gyda Cymru i chwarae'r enillydd yng Nghaerdydd ychydig ddyddiau yn ddiweddarach.
Ar ôl i Gymru guro Awstria ar 24 Mawrth, y bwriad gwreiddiol oedd i chwarae rownd derfynol y gemau ail gyfle yn erbyn unai'r Alban neu Wcráin ar 29 Mawrth, ond yn sgil ymosodiad milwrol Rwsia ar Wcráin, fe wnaeth FIFA ohirio'r rownd gynderfynol rhwng y ddwy wlad.
Fodd bynnag, mae Cymdeithas Bêl-droed Wcráin bellach wedi cadarnhau y bydd y tîm cenedlaethol yn gallu chwarae yn y rownd gynderfynol ym mis Mehefin.
Yn sgil newid dyddiad y gêm ail-gyfle, bydd gemau Cymru yng Nghynghrair y Cenhedloedd hefyd yn cael eu heffeithio.
Dyma drefn gemau Cymru ym mis Mehefin:
1 Mehefin - Gwlad Pwyl v Cymru (Cynghrair y Cenhedloedd)
5 Mehefin - Cymru v Yr Alban / Wcráin (Rownd derfynol gemau ail-gyfle Cwpan y Byd)
8 Mehefin - Cymru v Yr Iseldiroedd (Cynghrair y Cenhedloedd)
11 Mehefin - Cymru v Gwlad Belg (Cynghrair y Cenhedloedd)
14 Mehefin - Yr Iseldiroedd v Cymru (Cynghrair y Cenhedloedd)
Pe bai Cymru yn cyrraedd Qatar, byddai tîm Rob Page yn wynebu Lloegr, Iran ac Unol Daleithiau'r America yng Ngrŵp B ym mis Tachwedd.