Newyddion S4C

PYC_Beti George

Beti George yn ymuno â chast Pobol y Cwm

NS4C 08/04/2022

Fe fydd wyneb cyfarwydd yn ymuno â chast Pobol y Cwm yn yr wythnosau nesaf.

Bydd y ddarlledwraig Beti George yn ymddangos yn y gyfres - ond nid fel hi ei hun.

Bydd yn hytrach yn actio rhan "Eunice", menyw gref sydd hefyd yn fam i’r gŵr busnes a’r cynghorydd Ieuan Griffiths. 

Wrth siarad ar raglen Ifan Evans ar Radio Cymru dywedodd Beti: “Fe wnes i fwynhau actio Eunice, mae’n rhaid i fi ddweud.

“Ond, yn rhyfedd iawn, fe ddaeth yr alwad, a’r e-bost yn gofyn i fi ac yn cynnig rhywbeth i mi ar Pobol y Cwm.

"Dwi’n ffan o’r rhaglen beth bynnag ac o’n i’n meddwl bydden i’n mynd yna i fod yn fi fy hunan i wneud ‘Beti a’i Phobol’ gydag un o’r cymeriadau efallai.

"Ond, o na! Roedd rhaid i fi actio cymeriad!

'Tipyn o fenyw'

Dywedodd Beti fod cymeriad Eunice “yn dipyn o fenyw”.

Ychwanegodd ei bod yn gweld y cynnig i actio “fel rhyw fath o her newydd".

“Pan ‘y chi’n cyrraedd ‘yn oedran i, mae’n debyg falle bo pobl yn disgwyl i fi eistedd i lawr, a gwau ac edrych ar deledu drwy’r dydd amwn i. Ond na, dwi’m yn lico bod yn segur.”

Ychwanegodd Beti fod ymuno â’r cast fel bod “yn rhan o’r teulu.”

Fe fydd Beti George yn ymddangos ar Pobol y Cwm yn yr wythnos sy'n dechrau ar 18 Ebrill.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.