Sir Benfro: 'Cynnydd pryderus' mewn achosion o gam-drin staff a chynghorwyr ar-lein

Cyngor Sir Penfro

Mae Cyngor Sir Penfro yn dweud bod "cynnydd pryderus" wedi bod mewn achosion o gam-drin staff a chynghorwyr ar-lein.

Yn ôl y cyngor mae achosion, gan gynnwys bygythiadau, aflonyddu ac “ymddygiad arall a allai fod yn droseddol”, wedi cael eu hadrodd i’r heddlu.

Mae’r cyngor wedi trafod cynllun gweithredu i fynd i afael â'r broblem “gyda’r nod o gefnogi mwy o amrywiaeth o fewn y cyngor”.

Dywedodd y Cynghorydd Tessa Hodson: “Yn anffodus iawn, rydym wedi gweld cynnydd pryderus yn ddiweddar o ran cam-drin staff Cyngor Sir Penfro ar-lein.

"Hoffwn ei gwneud yn glir bod yr ymddygiad hwn yn annerbyniol ac na fydd yn cael ei oddef.

“Mae gan gamau gweithredu ar-lein ganlyniadau yn y byd go iawn. 

"Mae enwi a cham-drin unigolion yn mynd ymhell y tu hwnt i unrhyw graffu dilys ar y cyngor yn ei gyfanrwydd.

“Mae ein gweithwyr yn weision cyhoeddus sy’n gweithio’n galed i gefnogi cymunedau ledled Sir Benfro – y cymunedau lle mae’r rhan fwyaf o’n staff hefyd yn byw.

Image
Tessa Hodson
Y Cynghorydd Tessa Hodson

Ychwanegodd: “Mae llawer o’n gweithwyr yn cyflawni rolau hynod anodd, ac yn aml yn delio â sefyllfaoedd cymhleth a sensitif. Maent yn haeddu parch, nid ymosodiadau personol, bygwth na cham-drin.Ychwanegodd.

"Mae gan bobl bob hawl i gwestiynu penderfyniadau a mynegi eu barn, ond mae llinell glir iawn rhwng craffu dilys ac ymddygiad annerbyniol.

“Byddwn yn sefyll yn gadarn dros ein gweithlu ac ni fyddwn yn oedi cyn gweithredu lle bo angen. “

'Amddiffyniad'

Dywedodd y Cynghorydd Billy Shaw o Abergwaun fod angen rhagor o bwyslais ar ddyletswydd y cyngor i ofalu am gynghorwyr, ar ôl achosion o “gamdriniaeth” yn eu herbyn ar y cyfryngau cymdeithasol.

Dywedodd: “Un peth sy’n atal pobl rhag ymuno yw’r cyfryngau cymdeithasol a’r faint o gamdriniaeth sydd arnynt.

“Cyn gynted ag y byddwch yn rhoi eich enw ymlaen, mae’r cyfryngau cymdeithasol yn troi’n ffos fudr oherwydd nad yw eich barn wleidyddol yn cyd-fynd â barn rhywun sy’n lleisiol iawn ar y cyfryngau cymdeithasol.

“Roeddwn i’n pendroni a oes unrhyw ffordd o ddarparu amddiffyniad i unrhyw un sydd eisiau rhoi eu henw ymlaen [i fod yn gynghorydd]?

“Rwy’n gwybod bod nifer o gynghorwyr yma wedi gorfod wynebu’r ffos fudr honno, sef y cyfryngau cymdeithasol, yn ddiweddar.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.