Ymchwilio i ymosodiad hiliol honedig yn Aberystwyth
06/04/2022
Mae Heddlu Dyfed Powys yn ymchwilio i honiad o ymosodiad hiliol yn Aberystwyth.
Digwyddodd yr ymosodiad honedig am tua 02:00 fore Sul, 3 Ebrill tu allan i glwb nos Pier Pressure.
Yn ôl yr honiadau sydd wedi eu gwneud, mae dyn wedi taro dyn 59 oed, cyn gwneud sylwadau hiliol.
Mae'r heddlu yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu drwy alw 101 gan ddefnyddio cyfeirnod DP-20220403-118.