Newyddion S4C

Oriel: Rheng flaen Wcráin drwy lens ffotograffydd

Newyddion S4C 06/03/2022
Llun 5 Helen Wcráin

Mae'r ffotograffydd Helen Titarenko wedi bod yn rhannu ei lluniau o’r rhyfel yn Wcráin gyda Newyddion S4C.

Yn byw yn ninas Zaporizhzhia mae ei lluniau’n dangos ymdrechion pobl y wlad i geisio amddiffyn eu gwlad yn sgil yr ymosodiadau parhaus gan Rwsia.

“Ar ôl deuddydd o wylio'r newyddion penderfynais nad oedd modd i mi eistedd adref mwyach,” eglurai Helen.

“Felly cymerais fy nghamera a mynd allan i dynnu lluniau o bobl wrth eu gwaith.

“Mae pawb yn ceisio gwneud rhywbeth oherwydd mae eistedd gartref yn eich gyrru'n wallgof.”

Image
Llun 2 Helen Wcráin
Pobl yn creu Molotov cocktails i’w defnyddio yn y rhyfel.

“Mae grwpiau o bobl wedi bod yn gwneud 'hedgehogs' i warchod y ddinas a ffrwydradau Molotov Cocktails i'w defnyddio," meddai.

“Mae chwarel fawr yn y ddinas gyda llawer o dywod a dros y dyddiau diwethaf roedd 200 i 300 o ddynion yn cymryd y tywod i wneud bagiau tywod.”

Image
Llun Helen Wcráin 4
Chwarel dywod ger Zaporizhzhia.
Image
Llun Helen Wcráin 6
Yn ôl Helen Titarenko mae hyd at 300 o bobl wedi bod yn helpu i greu’r bagiau tywod.
Image
Llun Helen Wcráin 3
Bydd y bagiau tywod yn cael eu defnyddio i warchod y dinasoedd.

‘Optimistiaeth’

“Rydym yn llawn optimistiaeth. Efallai ei fod yn swnio'n rhyfedd iawn, ond rydym wedi blino o fod yn ofnus," ychwanegodd Helen.

“Rydym ni nawr yn un gymuned fawr sy'n gwneud rhywbeth gyda'n gilydd i amddiffyn, ac yn gwneud y gorau i amddiffyn ein gwlad.”

“O weld cymaint o bobl yn gwneud cymaint, yn rhoi arian, nwyddau ceir ac yn y blaen rwy'n credu yn ein pobl.”

Image
Llun Helen Wcráin 1
"Hedgehogs" fydd yn cael eu defnyddio i geisio rhwystro cerbydau milwrol Rwsia.
Image
Llun Helen Wcráin 7
Gweithiwr o gwmni adeiladu lleol yn weldio rhwystrau gwrth-danciau i'w gosod ar ffyrdd cyfagos.

“Mae'r sefyllfa hon wir wedi dangos pŵer go iawn bobl Wcráin.

“Mae’n rhyfedd, ond nawr rydyn ni'n agosach at ein gilydd nag erioed o'r blaen.”

Image
Llun Helen Wcráin 8
Cyd-ganu anthem Wcráin.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.