Newyddion S4C

Ap newydd i ddarganfod podlediadau Cymraeg

14/04/2021

Ap newydd i ddarganfod podlediadau Cymraeg

Mae gwefan YPod.Cymru wedi cyhoeddi gwasanaeth newydd er mwyn darganfod podlediadau Cymraeg.

Mae’r ap ar gael ar y rhan fwyaf o ddyfeisiau fel ffonau symudol a chyfrifiaduron a’r gobaith ydy y bydd yn ei gwneud hi'n haws i wrando ar gynnwys yn yr iaith Gymraeg.

Tyfodd y nifer o bodlediadau ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg o 35 i 145 rhwng 2018 a 2020. 

Dywedodd cynhyrchydd Y Pod, Aled Jones, ei fod yn gobeithio bydd yr ap yn cynyddu gwrandawyr ymhellach.

“Mae’n rhoi platfform i bobl darganfod podlediadau,” dywedodd.

“Os chi’n mynd i Spotify neu Apple Podcasts chi methu dweud ‘Dangoswch i fi bob dim yn Gymraeg', so heblaw bod chi’n gwybod enw'r podlediad chi methu darganfod y podlediad.

“Dyna be mae’r Pod yn neud, yw jyst rhoi lle chi allu gwrando ar bodlediadau Cymraeg,” ychwanegodd.

Ers mis Awst mae nifer o ymwelwyr Y Pod wedi dyblu. Mae Aled yn dweud bod cynyddu cynnwys Cymraeg yn rhan bwysig o’i waith.

“Y fwy a fwy o bethau sydd ar gael yn y Gymraeg y gorau,” dywedodd.

 “Achos fel rhywun sy’n siarad Cymraeg fel ei iaith gyntaf, fi jyst eisiau defnyddio’r Gymraeg i ddarganfod unrhyw beth.”

Gallwch lawrlwytho ap Y Pod ar ei wefan: https://ypod.cymru.

Erthygl: Caleb Darwin, myfyriwr ôl-radd mewn newyddiaduraeth, Prifysgol Caerdydd

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.