
'Braint' cefnogwr Everton o Ben Llŷn wrth ddatblygu stadiwm newydd y clwb
Mae cefnogwr Everton o'r Ffôr ger Pwllheli wedi dweud ei fod yn "fraint" cael chwarae rhan fawr yn natblygiad stadiwm newydd y clwb.
Roedd John Pritchard, sydd yn 64 oed yn gweithio ar ran cwmni CBRE i greu cynllun busnes ac asesu effaith economaidd adeiladu'r stadiwm newydd ar Ddoc Bramley Moore.
Ar hyd y blynyddoedd mae Mr Pritchard wedi gweithio ar brosiectau ffyniant bro (levelling up) a chynllun adeiladu ymestyn yr M4, ond dyma oedd y prosiect mwyaf heriol iddo weithio arno hyd yma.
“Doedd o ddim yn hawdd, 'swn i’n dweud bod hwn yn un o’r prosiecta' mwya' heriol dwi wedi gweithio arna fo," meddai wrth Newyddion S4C.
“O’dd o’n fawr, dros biliwn o bunnoedd o werth i’r prosiect yma yn ei gyfanrwydd.
“O’dd y gwaith yn cael ei gymeradwyo lawr yn Downing Street gan ei fod yn brosiect mor fawr. O’dd 'na broffil mawr gyda gwneud datblygiad fel hyn ynde."
Bydd Everton yn chwarae eu gemau newydd yn y stadiwm newydd, sydd yn dal dros 52,000 o gefnogwyr ddechrau tymor nesaf.
'Pwysig i mi'
Ers yn bump oed mae John Pritchard wedi bod yn gefnogwr Everton brwd.
Roedd cael gweithio ar y stadiwm newydd a gyda phobl ar draws y byd i wireddu'r cynllun yn golygu cymaint iddo.
“Mi ydw i yn gefnogwr Everton ers 1970, wedyn oedd gwneud y gwaith yma yn bwysig iawn i mi yn bersonol," meddai.
“Gweld y stadiwm rŵan, mae o jyst yn ffantastig dydy, ma’n anhygoel be’ ma’ nhw ‘di neud yna ‘de.

“O’dd o’n waith cyffrous iawn. Oedd o’n bluen yn dy het di yn sicr.
“Mae ‘na lot o sôn am Everton fel clwb pobl, a ma' rhaid fi ddeud mae o, mae o’n clwb bendigedig.
"Ma’r pobl sy’n gweithio ‘na yn fendigedig a fedri di ddim gofyn am bobl fwy hawddgar na' pobl sy’n gweithio yn Everton.
“Lyfli o bobl ac yn gwerthfawrogi bob dim oeddet ti’n gwneud iddyn nhw, clwb hoffus hoffus iawn ac mae’n fraint i bwy bynnag sy’n cefnogi Everton i fod yn cefnogi nhw."
'Effaith gwerth chweil'
Dechreuodd John ar y gwaith yn 2016, ac fe gafodd y cynllun ei gwblhau erbyn 2020, ychydig cyn y pandemig.
Fel gweithiwr llawrydd roedd y Cymro yn gweithio ar brosiectau gwahanol ar y cyd gyda phrosiect Stadiwm Everton.
Ond yn wahanol i brosiectau eraill roedd yn gweithio arnynt, roedd heriau wrth asesu effaith economegol y stadiwm newydd gan fod Goodison Park, stadiwm bresennol Everton, yn dal i weithredu.
“Roedd 'na dipyn o waith achos roedd nifer o bobl hefo gweledigaeth o beth oedd y stadiwm yna yn mynd i fod," meddai.
“O’dd o’n ddiddorol iawn, gwaith dwys iawn achos oedd nifer o elfennau i be ro’n i’n neud."
“Mewn ffordd oedd y stadiwm newydd ond yn symud yr effaith o Goodison Park i Bramley Moore Dock, oedd yn wahanol i adeiladu stadiymau eraill.
“Fues i’n siarad dipyn efo prif weithredwr Everton ar y pryd am sut fyswn ni’n gallu ei ddarlunio fo fel bod o’n cael effaith gwerth chweil ar Lerpwl a’r cyffiniau felly.
“Mae’r holl wariant sy’n mynd ymlaen, nid yn unig ar y chwaraewyr ond tu hwnt i hwnna, y staff, pobl yn gwneud bwyd, mae’r gwariant yn sylweddol iawn ac mae angen cronni hwnna at ei gilydd a gwneud yn siŵr dy fod yn hapus i roi’r swm cywir o ran effaith y stadiwm."