Aelod seneddol yn honni iddi golli ei swydd fel gweinidog oherwydd ei bod yn Fwslim

Mae prif chwip y Blaid Geidwadol Mark Spencer wedi gwadu honiadau gan aelod seneddol ei bod wedi colli ei swydd fel gweinidog oherwydd ei bod hi’n Fwslim
Roedd Nusrat Ghani wedi honni ei bod wedi colli ei swydd oherwydd bod ei chred yn “gwneud cydweithwyr yn anghyffyrddus”.
Dywedodd “roedd fel cael ergyd i’r stumog”, meddai’r aelod seneddol dros Wealden a gollodd ei swydd fel gweinidog trafnidiaeth yn Chwefror 2020.
Mewn cyfweliad gyda’r Sunday Times, dywedodd fod rhywun wedi dweud wrthi fod ei statws fel gweinidog Mwslimaidd a bod “pryder nad oeddwn yn deyrngar i’r blaid”.
Dywedodd llefarydd ar ran Rhif 10 Downing Street ddydd Sul fod prif weinidog y DU wedi cyfarfod gyda Ms Ghani ym 2020 a'i gwahodd i wneud cwyn swyddogol.
Darllenwch y stori yn llawn yma.