Newyddion S4C

Dangos ffilm am frwydr menyw i achub sinema yng Nghaerfyrddin

14/01/2022
Save the Cinema

Fe fydd ffilm newydd am frwydr menyw i achub theatr a sinema Caerfyrddin yn cael ei dangos am y tro cyntaf ddydd Gwener.

Teitl y ffilm yw 'Save the Cinema' ac fe fydd yn cael ei darlledu gan Sky.

Yn ystod y 1980au a'r 90au cynnar, fe frwydrodd Liz Evans – mam y cantorion Wynne Evans a’i frawd Mark - i achub theatr a sinema'r Lyric.

Mae Wynne Evans yn adnabyddus am actio cymeriad canwr opera ar hysbysebion Go Compare, ac yn darlledu ar raglen BBC Radio Wales.

Fe drawsnewidiwyd theatr a sinema'r Lyric yn ddiweddarach gyda chymorth miliynau o bunnoedd mewn grantiau.

Yn 1993, fe ddaeth hi'n amlwg na fyddai’r Lyric yn cael copi o'r ffilm newydd Jurassic Park.

Aeth Ms Evans at Faer y Dref, Richard Goodridge, a phwyso arno i ysgrifennu at y cyfarwyddwr ffilmiau enwog Steven Spielberg.

'Braint' adrodd yr hanes

Fe wnaeth hynny, a daeth yr ateb yn ôl y byddai Caerfyrddin yn cael copi o'r ffilm ar gyfer cynnal premiere o Jurassic Park.

Fe werthwyd cannoedd o docynnau yn sydyn iawn ar gyfer y noson.

Roedd y digwyddiad yn stori newyddion ei hun ar y pryd gyda chriwiau teledu yn heidio i Gaerfyrddin.

Nawr mae’r stori wedi cael ei throi yn ffilm a gafodd ei ffilmio llynedd pan oedd cyfyngiadau Covid llym mewn grym.

Dywedodd cyfarwyddwr y ffilm Sara Sugarman, sydd yn wreiddiol o'r Rhyl, ei bod hi'n fraint i gael adrodd hanes y diweddar Liz Evans.

Mae nifer o actorion blaenllaw o Gymru yn cymryd rhan yn y ffilm. Yn eu plith mae Jonathan Pryce, Erin Richards, Owain Yeoman a Rhod Gilbert.

Mae'r ffilm yn cael ei dangos ar Sky Cinema o ddydd Gwener, ac yn theatr y Lyric am bythefnos.

Fe fydd hi hefyd yn cael ei dangos mewn sinemâu ledled Cymru dros yr wythnosau nesaf.

Llun: Sky

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.