Golygydd Golwg i gamu lawr o'r swydd
Mae golygydd cylchgrawn Golwg a gwefan newyddion Golwg360 wedi cyhoeddi y bydd yn camu i lawr o’i rôl.
Mae Garmon Ceiro wedi bod yn olygydd ar y gwasanaethau ers dwy flynedd, ac fe fydd yn gadael cwmni Golwg cyn diwedd y mis.
Cyn i Mr Ceiro ymuno â Golwg ym mis Mawrth 2020, roedd yn gweithio i Lywodraeth Cymru ac yn golofnydd i'r Cymro.
Yn ei golofn olygyddol olaf yn y cylchgrawn, dywedodd Mr Ceiro: “Ma’i wedi bod yn gyfnod… gwahanol... Fe ddechreues i ar drothwy’r cyfnod clo cynta’ drwy fynd i’r swyddfa yng Nghaernarfon i weud helo – cyn gorfod neidio nôl ar y trên yr un diwrnod wrth i’r clo mawr cynta’ gael ei gyflwyno.
“Wrth i fi osgoi’r pesychwr peryglus ar yr hen drên sigledig o’r Gogledd i’r De, a thecstio’r Dirprwy Olygydd am shwt ddiawl fydden ni’n parhau i gyhoeddi dan glo, sai’n credu ’mod i’n llwyr ddeall mawredd yr hyn oedd i ddod – ac y bydden ni, i bob pwrpas, yn styc yn ein cartrefi am weddill fy nghyfnod wrth y llyw!
“Ond fe ymdopon ni – ac ma raid ifi ddiolch i’r holl staff am hynny. Buodd rhai problemau – cysylltiadau gwe gwael, gwaith ffyrdd yn digwydd reit tu fas i ffenestri – ond fe aeth Golwg i’r wasg bob wythnos yn llawn pethe diddorol.”
Fe aeth Garmon Ceiro ymlaen i ddweud fod cyhoeddiadau Golwg mewn dwylo diogel, ac y bydd yn parhau i gyfrannu i’r cylchgrawn mewn colofn achlysurol.
Mae Newyddion S4C wedi gofyn i gwmni Golwg am eu hymateb i ymadawiad Mr Ceiro.