Newyddion S4C

Covid-19: Cofnodi 11 marwolaeth yn rhagor a 3,197 achos newydd

13/01/2022
Profi Covid-19

Mae 3,197 o achosion pellach o Covid-19 wedi eu cofnodi yng Nghymru yn ystod y 24 awr diwethaf, yn ôl ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru. 

Cafodd 11 marwolaeth yn rhagor eu cofnodi yn ystod yr un cyfnod. 

Roedd y gyfradd achosion ymhob 100,000 o'r boblogaeth dros y saith diwrnod hyd at 8 Ionawr wedi gostwng i 1,492.4.

Nid oes gan yr un sir yng Nghymru gyfraddau'n uwch na 2,000 o achosion fesul 100,000 o bobl erbyn hyn.

Mae'r gyfradd ar ei huchaf yn ardaloedd awdurdodau lleol Castell-nedd Port Talbot (1,893.0), Blaenau Gwent (1,756.3) a Caerffili (1,671.7).

Roedd y cyfraddau isaf yn Sir Fynwy (939.8), Ceredigion (945.0) a Gwynedd (1,129.6).

Mae 735,745 achos positif a 6,679 o farwolaethau wedi eu cofnodi ers dechrau'r pandemig erbyn hyn.

Hyd yma mae 2,499,123 o bobl wedi derbyn o leiaf un brechiad rhag Covid-19, mae 2,332,336 wedi derbyn dau ddos, ac mae 1,758,311 o bobl wedi derbyn eu brechiad atgyfnerthu. 

Gallwch ddod o hyd i'r ffigyrau diweddaraf ar nifer yr achosion, marwolaethau a brechiadau ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.