Newyddion S4C

Buddsoddiad newydd i helpu colegau a phrifysgolion gyrraedd targedau net sero

13/01/2022
Prifysgol

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi buddsoddiad newydd i helpu colegau a phrifysgolion gyrraedd targedau net sero. 

Mewn cyhoeddiad ddydd Iau, dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, y bydd £65m o gyllid newydd ar gael i'r sector addysg bellach i leihau ei allyriadau carbon. 

Bydd hefyd yn ofynnol i unrhyw adeiladau newydd ar gampysau prifysgolion neu golegau i gydymffurfio â thelerau net sero. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyrraedd net sero erbyn 2050. 

Nod net sero yw cadw'r cyfanswm o garbon deuocsid sydd yn cael ei rhyddhau i'r atmosffer i sero trwy leihau allyriadau a datblygu mesurau sydd yn amsugno Co2.

Colegau a phrifysgolion â 'rol bwysig' yn newid hinsawdd

Bydd £46m o'r cyllid ar gael i ddarparwyr addysg bell i leihau eu hôl troed carbon trwy wneud gwelliannau i'w safleoedd megis gosod goleuadau LED. 

Gall yr arian hefyd cael ei ddefnyddio i ehangu cyrsiau i gynnwys addysg am net sero felly gall myfyrwyr ddysgu sut i leihau effeithiau newid hinsawdd fel rhan o'u hyfforddiant. 

Bydd £10m hefyd ar gael i sefydliadau addysg uwch ar gyfer gwaith ymchwil sydd yn cyd-fynd a thargedau a blaenoriaethau'r llywodraeth. 

Wrth gyhoeddi'r buddsoddiad newydd, dywedodd Jeremy Miles: "Fel llywodraeth, rydym wedi ymrwymo i frwydro yn erbyn newid hinsawdd.

"Mae gan ein colegau a'n prifysgolion rôl bwysig i'w chwarae yn yr ymdrech genedlaethol i gyrraedd Sero Net, fel cyflogwyr mawr ledled Cymru a chartrefi dysgu y gweithwyr a fydd yn rhoi eu haddysg ar waith mewn proffesiynau sy'n galw am sgiliau uwch."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.