
Cyfiawnder i gyn is-bostfeistri: Iawndal 'ddim yn ddigonol'

Cyfiawnder i gyn is-bostfeistri: Iawndal 'ddim yn ddigonol'
Dyw’r Swyddfa'r Post heb lwyddo i gysylltu gyda dros 127 o gyn is-bostfeistri gafodd eu herlyn fel rhan o helyntion system gyfrifiadurol Horizon.
Dydd Mawrth roedd Nick Read, prif weithredwr presennol Swyddfa'r Post, yn rhoi tystiolaeth o flaen pwyllgor yn San Steffan.
Dwedodd mai'r gobaith yw cyflwyno cynnig ariannol cyn diwedd y flwyddyn i fwyafrif y cyn-weithwyr sy'n hawlio iawndal, ond rhybuddiodd na fydd modd i Swyddfa'r Post dalu'r holl iawndal heb gymorth.
Cyn y Nadolig dywedodd Llywodraeth San Steffan y byddai'n barod i ysgwyddo'r baich.
Yn ôl Noel Thomas, cyn is-bostfeistr yng Ngaerwen ar Ynys Môn gafodd ei anfon i'r carchar ar gam yn 2006 am gadw cyfrifon ffug, mae’n broses “araf iawn”.

“Unwaith 'da chi'n cyrraedd y giât ma' 'na rywun yna yn ei chau hi yn eich wyneb chi bob amser,” meddai Mr Thomas wrth raglen Newyddion S4C.
“O be glywes i bore 'ma mae’n bwysig bod y 500 yn sticio hefo i gilydd.
“Ar ddiwedd y dydd 'da ni di ddechrau o hefo'n gilydd, 'da ni isio i ddarfod o efo'n gilydd.”
Hyd yn hyn mae Swyddfa'r Post wedi cynnig iawndal i 777 o gyn-is-bostfeistri, hynny ar ôl derbyn 2,500 o geisiadau yn dilyn helyntion Horizon.
Mae 72 o euogfarnau bellach wedi'u dileu - ac eraill yn debyg o ddilyn.
O'r rhain mae 57 o bobl eisoes wedi derbyn taliad cychwynnol o £100,000 - yn gyfran o'r iawndal hyd nes y bydd y cyfanswm terfynol wedi'i benderfynu.
Ar ôl ennill achos yn Llys yr Apêl y llynedd i adfer ei enw da mae Mr Thomas yn un o'r rhai sydd wedi derbyn yr arian yma.

Yn ogystal â’r rhai aeth i’r carchar, cafodd cannoedd yn rhagor o gyn is-bostfeistri eu dal yn yr helynt.
Ar ôl gwneud colledion ariannol roedd cydnabyddiaeth ddydd Llun gan Swyddfa'r Post a Llywodraeth San Steffan nad oedd yr iawndal iddynt yn ddigonol.
Yn ôl Paul Scully, y Gweinidog Busnes yn San Steffan, fe fydd yn cyfarfod a'u cynrychiolwyr cyn diwedd y mis i drafod y camau nesaf.