
Y genhedlaeth sobor: Ydy pobl ifanc Cymru’n troi cefn ar alcohol?

Mae ymddygiad pobl tuag at alcohol yng Nghymru yn newid, yn ôl astudiaeth ddiweddar.
Mae ffigyrau'n dangos fod bron i chwarter o bobl ifanc yn awyddus i leihau ar faint maen nhw'n ei yfed.
Dangosodd astudiaeth y Portman Group fod 24% o bobl y DU am dorri 'nôl ar alcohol, gyda bron i draean o rheiny rhwng 18-24 oed.
Mae Caitlin Regola o Sir Gaerfyrddin yn un sy'n ystyried ei hun yn "teetotal".
Roedd y fyfyrwraig sobor o Lanelli fel arfer yn yfed pan yn ifanc, ac mae ganddi hanes o bobl yn ei beirniadu a rhoi pwysau arni am beidio yfed ar nosweithiau allan.
“Ma' pobl yn gweud bo chi'n boring jyst achos so chi'n yfed a ma hwnna'n rili annoying," meddai.
"Fi yn teimlo mae diodydd non-alcoholic yn 'neud i fi ffitio mewn yn well na dim yfed o gwbl".

'Yn gaeth yn 20 oed'
Mae Will Parry hefyd yn un sydd bellach yn sobor ar ôl cael perthynas anodd gydag alcohol ers yn iau.
Mae Will wedi rhannu’i brofiad personol ar ôl sylweddoli ei fod yn gaeth i alcohol pan yn 19 mlwydd oed ac yn fyfyriwr prifysgol.
Dywedodd Will: “Mae'n debyg i stori'r cyw iâr a'r wy, pa un sy'n dod gyntaf? Os oes gennych chi iechyd meddwl gwael iawn fe ddaw dibyniaeth, neu i'r gwrthwyneb.
“Ac i fod yn onest, rwy'n credu bod gen i hanes gwael gydag yfed, ac yna iechyd meddwl gwael, a oedd yn y bôn yn llwyfan ar gyfer dod yn alcoholig.”
Erbyn hyn, mae Will yn 22 mlwydd oed ac wedi bod yn sobor ers dros ddwy flynedd ar ôl sylweddoli'r effeithiau y mae alcohol yn eu cael ar ei iechyd meddyliol a chorfforol.

Mae Arolwg Llysgennad Brand Byd-eang Bacardi 2020 yn datgelu bod gweithwyr bar yn teimlo fod y pandemig wedi cyflymu'r duedd o alcohol 0%.
Mae Conor Isak yn gweithio mewn nifer o dafarnau a chlybiau nos yng Nghaerdydd ac wedi gweld tueddiad mewn llai o bobl yn ei 20au yn mynd allan.
"Gyda phobl ifanc, yn enwedig y rhai sydd wedi troi’n 18 yn ystod y pandemig, maen nhw’n teimlo fel bod nhw wedi colli allan ar yr opportunity i fod yn 18 ac felly yn gorwneud," meddai.
“Chi’n gweld llai o bobl hŷn yn y llefydd dwi’n gweithio - mewn atmosffêr clwb chi’n gweld mwy o bobl sy’n 18 na phobl sydd yn ei 20au cynnar i ganol.”
Mae’r gweithiwr bar o Gaerdydd hefyd yn galw ei hun yn "teetotal" ar ôl rhoi'r gorau i alcohol er mwyn canolbwyntio ar ei iechyd meddwl.
“Es i just bach yn overboard, yn rhy gynnar yn mywyd fi. Felly oedd e wedi dechrau cael effaith llai desirable ar fy mywyd ac ar fy iechyd meddwl, felly roedd rhaid i fi jyst stopio a dwi heb gyffwrdd ag e ers ‘ny,” meddai.

'Rhywbeth rili personol'
Fe wnaeth Catrin Jôbs-Davies roi'r gorau i alcohol yn Rhagfyr 2020 am fis, ac ers hynny mae wedi bod yn sobor am dros flwyddyn.
Mae’r ddynes o Fae Colwyn wedi dogfennu ei thaith ddi-alcohol ar ei chyfrif Instagram ‘Sobor o Dda’, ble mae hi’n rhannu ei stori sydd wedi ysbrydoli eraill i roi'r gorau iddi hefyd.

“Roeddwn i’n edrych ar wahanol wefannau Saesneg, a gwnes i sylweddoli doedd 'na ddim byd yn dangos y pethau yna yn yr iaith Gymraeg. A wnaeth gwraig fi jyst dweud ‘Wel, waith iti dechrau un dy hun’”, meddai.
Dechreuodd hi'r cyfrif i rannu gwahanol opsiynau di-alcohol, ac ysbrydoliaeth i bobl arall sydd yn mynd trwy’r un daith sobor.
“Roeddwn i’n ymwybodol roeddwn i’n yfed gormod i fi fy hun, ond mae’n rili bwysig i egluro bod perthynas gydag alcohol i bawb yn rili unigryw ac mae’n rhywbeth rili personol."