Newyddion S4C

Dylai pobl 'fod bach fwy caredig i’w hunain' wrth wneud addunedau blwyddyn newydd

09/01/2022

Dylai pobl 'fod bach fwy caredig i’w hunain' wrth wneud addunedau blwyddyn newydd

Wrth i'r mwynhau o'r cyfnod Nadolig dod i ben, mae nifer ohonom yn gwneud addewidion i wella ein hunain yn ystod y flwyddyn newydd. 

Yn ôl arolwg gan YouGov, mae un ymhob saith o bobl wedi gwneud addunedau blwyddyn newydd ar gyfer 2022. 

Unwaith eto eleni, roedd addunedau yn ymwneud a ffitrwydd, diet a cholli pwysaf ymhlith y rhai mwyaf cyffredin. 

Ond gyda nifer o bobl yn teimlo'r angen i fynd i'r gampfa neu ddechrau rhedeg, mae un arbenigwr ffitrwydd wedi annog pobl i beidio rhoi gormod o bwysau ar eu hunain. 

Dywedodd Rae Carpenter, un o gyflwynwyr FFIT Cymru, ni ddylai pobl ffocysu ar wneud newidiadau enfawr yn eu bywydau gyda'r flwyddyn newydd. 

"Eleni ma’ angen i bobl fod fach fwy caredig i’w hunain rili," meddai. 

"Ma’r gorbyta a’r partio falle dros y ‘dolig a’r flwyddyn newydd o hyd yn gyfnod lle wedyn ‘ny ar ôl hynna ma’r rhan fwyaf o bobl yn meddwl ‘W, mae’n rhaid rhoi stop ar hynny’. 

Image
Rae Carpenter
Dywedodd Rae Carpenter y dylai pobl fod yn "garedig i'w hunain" eleni

"Dwi’n gobeithio y bydd pobl ddim yn rili’n teimlo llwyth o bwysau i wneud trawsnewidiad mawr mawr ar ddechrau’r flwyddyn achos ma’ rheina yn tueddu o ffili."

Ychwanegodd yr hyfforddwr personol bod amser y pandemig wedi dylanwadu ar allu nifer o bobl i ymarfer corff ac mae rhaid dechrau yn araf. 

"Beth ni wedi gweld yn sicr dros filiwn o bobl yn ymgymryd mewn rhedeg, sydd yn ffantastig wrth gwrs.

"Ond y broblem sy’n dod gyda hynny wrth gwrs, oherwydd lockdown da chi ddim wedi cael cyfle i redeg gyda ffrind, neu grŵp profiadol sydd yn gwybod yn iawn sut i redeg." 

Yn ôl ymchwil YouGov, dim ond un ymhob tri o bobl wnaeth cadw at bob un o addunedau ar gyfer 2021. 

Dywedodd Rae y dylai pobl darganfod gweithgaredd maent yn mwynhau er mwyn gwneud hi'n haws i gadw at dargedau ffitrwydd. 

"Mae rhaid i ni edrych ar jyst gwneud rhywbeth ni'n mwynhau, fel bod ni yn teimlo'r hormonau hapus 'na," meddai. 

"Os 'da chi'n cerdded, os 'da chi'n jogian, os 'da chi'n ddwli arni neidio ar drampolîn bach yn eich tŷ chi."

"Os mae gen ti Spotify playlist, un trac sydd yn cael chi lan ar y llawr 'na i symud eich corff, rhowch e 'mlaen yn y bore , pan mae'n dawel, pan mae'n dywyll a symudwch fel does neb arall yn gwylio."

Llun: Nenad Stokjovic 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.