David Brooks yn ymateb "yn addawol" i driniaeth canser
Mae’r chwaraewr pêl-droed David Brooks wedi cyhoeddi fod ei ragolygon yn edrych yn “addawol a chadarnhaol” wrth iddo dderbyn triniaeth am ganser.
Mewn datganiad ar ddechrau mis Hydref, dywedodd Brooks, sydd yn chwarae dros Gymru a Bournemouth, fod y newyddion wedi bod yn “sioc” iddo ef a’i deulu.
Rhannodd y newyddion gyda’i ddilynwyr ar Twitter gan ddatgelu ei fod wedi derbyn diagnosis o Hodgkin Lymphoma Cam II.
Fe ddechreuodd Brooks ar driniaeth ar gyfer y cyflwr ar ôl iddo chwarae mewn rhai o gemau Cymry yng Nghystadleuaeth Ewro 2020. Ond bu’n rhaid iddo ildio ei le yn y garfan ar ôl iddo gael ei daro’n wael.
Mae Brooks wedi chwarae dros Gymru ers 2017, ac fe ymunodd â Bournemouth yn 2018.
Newyddion calonogol am David Brooks, sy'n derbyn triniaeth am ganser👇 https://t.co/VRRtaEosxM
— Chwaraeon Radio Cymru (@bbccamplawn) January 7, 2022
Mewn datganiad pellach ar ei gyfrif Twitter, dywedodd: “Yn gyntaf, Blwyddyn Newydd Dda i bawb! Teimlais mai dyma'r amser iawn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi i gyd am fy hynt yn dilyn fy niagnosis ym mis Hydref y llynedd.
"Roeddwn i eisiau diolch i bawb a gysylltodd â mi yn dilyn y diagnosis cychwynnol – cefais fy llethu gan y negeseuon anhygoel o gefnogaeth gan deulu, ffrindiau, cyd-chwaraewyr a phawb ar draws y cyfryngau cymdeithasol yn ystod y cyfnod anodd hwn.
"Rwy'n cael triniaeth ar hyn o bryd ac er mai dim ond hanner ffordd drwodd ydw i, mae'r cynnydd yn dda ac mae'r rhagolygon yn addawol ac yn gadarnhaol.
"Rwyf wedi bod yn cadw mewn cysylltiad â phawb yn Bournemouth a'r tîm cenedlaethol ac rwy'n edrych ymlaen at orffeniad cyffrous i'r tymor ar gyfer clwb a’r wlad.
"Diolch yn fawr ichi eto am eich holl gariad a chefnogaeth.
"Rwy'n gobeithio cael y cyfle i rannu mwy o newyddion da yn y misoedd i ddod gobeithio.
"Dymuniadau gorau.”
Mae Brooks wedi diolch i Gymdeithas Bêl-droed Cymru gan fod “sylw brys” y tîm meddygol wedi galluogi i feddygon adnabod y salwch.