
Covid-19: Pegwn y don bresennol ddim am 'hyd at bythefnos arall'
Efallai na fydd pegwn y don bresennol o Covid-19 yn cyrraedd am ryw 10 i 14 diwrnod arall yng Nghymru, yn ôl y Prif Weinidog Mark Drakeford.
Dywedodd fod hyd a difrifoldeb y don yn dibynnu ar yr hyn mae pobl yn ei wneud wrth ymateb.
Mewn cynhadledd i’r wasg ddydd Gwener, fe gadarnhaodd Mr Drakeford mai amrywiolyn Omicron yw’r prif amrywiolyn yng Nghymru erbyn hyn.
Serch hynny, nid oedd unrhyw newidiadau i’r cyfyngiadau yng Nghymru ddydd Gwener – fe fydd Cymru yn parhau ar Lefel Rhybudd Dau am y tro.
Ond, fe ddaeth cadarnhad am rai newidiadau i’r rheolau a’r canllawiau o ran profion Covid-19 yr wythnos hon er mwyn osgoi "gorlethu'r labordai" PCR.

Llun: Llywodraeth Cymru
'Ail-feddwl'
Dywedodd Mark Drakeford efallai y byddai modd ail-ystyried y cyfyngiadau sydd ar waith yng Nghymru ymhen pythefnos.
"Os mae'r model yn wir ac ar ôl pythefnos allwn ni weld nifer y bobl yn dod i lawr, dyna ble bydd y lle yn dod i ail-feddwl y cyfyngiadau sydd 'da ni ar hyn o bryd," meddai.
"Yn y sefyllfa 'na, fel mae'r model yn dangos, allwn ni, a dyna wrth gwrs beth 'dyn ni 'n ishe 'neud i dod i'r ail-feddwl am y cyfyngiadau sydd yna ar hyn o bryd a weld y llwybr i codi nhw yn y dyfodol."
Dywedodd y Prif Weinidog fod achosion ar eu huchaf ymhlith pobl rhwng 20 a 40 oed, ond bod cynnydd hefyd ymhlith grwpiau oedran hyn wrth i drosglwyddiad cymunedol gynyddu yn gyflym.
Ychwanegodd fod y ffigyrau diweddaraf yn dangos fod 994 cleifion Covid-19 mewn ysbytai yng Nghymru – cynnydd o 43% ers yr wythnos diwethaf a’r lefel uchaf ers mis Mawrth.
Meddai fod hyn yn is na brig y don yn ystod misoedd y gaeaf y llynedd ond ei fod yn agos at frig rhagolygon y llywodraeth.
Dywedodd hefyd fod lefelau absenoldebau staffio yn y GIG wedi cyrraedd 8.3% yn ôl y ffigyrau diweddaraf.
Roedd Mr Drakeford yn pwysleisio’r angen i bobl ddewis y gwasanaeth mwyaf addas ar gyfer eu triniaeth er mwyn cefnogi’r gwasanaeth iechyd, gan gynnwys defnyddio gwasanaeth NHS 111 ar-lein i wirio symptomau.
Mae 7,915 yn rhagor o achosion o Covid-19 wedi eu cofnodi yn ôl ystadegau dyddiol diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Cafodd 21 o farwolaethau newydd eu cofnodi ac mae'r gyfradd achosion ymhob 100,000 o'r boblogaeth dros saith diwrnod yn 2,324.6.