Newyddion S4C

Achos cyntaf o ffliw adar ymysg pobl ym Mhrydain wedi'i gofnodi

The Sun 06/01/2022
Ieir

Mae'r achos cyntaf o ffliw adar ymysg pobl ym Mhrydain wedi ei gofnodi wedi i ddyn yn ne-orllewin Lloegr profi'n bositif am yr haint. 

Yn ôl The Sun, mae Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA) wedi cadarnhau bod y dyn wedi profi'n bositif ar gyfer y straen H5 o'r haint. 

Mae nifer o ffermydd ar draws Prydain wedi cofnodi achosion ffliw adar ymysg eu hieir dros y misoedd diwethaf a chafodd mesurau argyfwng ei chyhoeddi yng Nghymru ym mis Rhagfyr.

Dywedodd arbenigwyr y mae'n debygol bod y dyn wedi dal yr haint ar ôl dod i gysylltiad agos iawn gyda sawl aderyn sâl. 

Yn ôl swyddogion does dim tystiolaeth bod y ffliw wedi lledu i unrhyw berson arall ac mae'r risg i'r cyhoedd yn isel. 

Darllewnch mwy yma

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.