Llywydd Serbia yn cyhuddo Awstralia o 'gamdrin' y seren tenis Novak Djokovic

Mae llywydd Serbia wedi cyhuddo Awstralia o "gamdriniaeth" o'r seren tenis Novak Djokovic, am nad oedd wedi cael mynediad i'r wlad ar ôl iddo hedfan i Melbourne i gystadlu.
Roedd Djokovic wedi cael eithriad meddygol o reolau brechu coronafeirws ac i gael mynediad i Awstralia i gystadlu ym Mhencampwriaeth Tenis Agored y wlad.
Ond cafodd ei atal ym maes awyr Melbourne gan awdurdodau’r wlad am sawl awr cyn i'w fisa gael ei ganslo.
Dywedodd Llu Ffiniau Awstralia ei fod wedi methu â darparu tystiolaeth ddigonol i gefnogi ei eithriad, ac mae'r chwaraewr bellach wedi mynd â'i achos i'r llys.
Dywedodd llywydd Serbia Aleksandar Vučić fod y wlad wedi cynnig cefnogaeth i'r Rhif 1 yn y byd.
Meddai mewn datganiad: "Dywedais wrth ein Novak fod Serbia gyfan gydag ef a'n bod yn gwneud popeth i weld bod aflonyddu chwaraewr tenis gorau'r byd yn dod i ben ar unwaith."
Mwy am y stori yma.