Teyrngedau i dad i dri fu farw mewn damwain jet ski yn Ghana
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i ddyn o Wynedd sydd wedi marw mewn damwain jet ski yn Ghana.
Roedd Iwan Gwyn, 49 oed, yn wreiddiol o bentref Llanaelhaearn ac wedi byw yn Ghana ers dros naw mlynedd.
Bu farw mewn damwain ar ynys ger Accra, prifddinas Ghana, ddydd Iau.
Roedd yn ŵr i Annie ac yn dad i dri o blant sef Ben, Megan a Laura.
Roedd yn gweithio fel Cyfarwyddwr Prosiectau i gwmni adeiladu rhyngwladol, gan weithio ar rai o brosiectau mwyaf llywodraeth y wlad.
Roedd Iwan yn gyn-chwaraewr ac yn gefnogwr brwd o Glwb Rygbi Pwllheli.
Bu hefyd yn chwarae pêl-droed i Nefyn a bu’n chwarae sboncen yng Nghynghrair Gogledd Cymru.
Mae teulu Iwan wedi diolch i’w holl ffrindiau a chyfeillion “sydd wedi bod mewn cysylltiad i gydymdeimlo ar gyfnod mor ofnadwy drist”.
Ychwanegodd ei deulu: “Fydd colled enfawr ar ei ôl”.
Mewn teyrnged, dywedodd llefarydd ar ran Clwb Rygbi Pwllheli: “Newyddion trist wedi'n cyrraedd am gollad Iwan Gwyn mewn damwain Jet Ski yn bell i ffwrdd yn Affrica.
“Fe oedd Iwan yn gyn chwaraewr y Clwb a wedi ein cefnogi erioed.
“Fedrai ddim ond cydymdeimlo hefo'i deulu a ffrindiau ar rhan fy nheulu a pawb sy'n gysylltiedig a'r Clwb.
“Dydi bywyd ddim yn deg.”
Mae ei deulu yn y broses o wneud trefniadau i ddod ag Iwan adref i Gymru.