Newyddion S4C

Trefnwyr y Chwe Gwlad yn 'cynllunio' am gemau heb dorfeydd

Nation.Cymru 04/01/2022
Cymru Chwe Gwlad

Fe allai gemau ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad gael eu cynnal y tu ôl i ddrysau caeedig, yn ôl adroddiadau.

Mae'r Telegraph yn adrodd fod trefnwyr yn rhoi cynlluniau wrth gefn ar gyfer rhai o'r gemau, yn sgil cynnydd sylweddol yn y nifer o achosion o Covid-19.

Ar hyn o bryd, Lloegr yw'r unig wlad yn y bencampwriaeth sydd heb gyfyngiadau ar dorfeydd.

Mae trefnwyr yn parhau i gynnal cyfarfodydd gydag undebau rygbi a llywodraethau ddydd Mawrth er mwyn trafod y posibilrwydd y bydd cyfyngiadau'n llacio erbyn dechrau'r gystadleuaeth.

Darllenwch fwy ar y stori yma.

Llun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.