Newyddion S4C

Ryan Reynolds a Rob McElhenney yn rhoi £10,000 i ymgyrch elusennol chwaraewr Wrecsam

Wales Online 04/01/2022
cc

Mae WalesOnline yn adrodd ei bod yn ymddangos i berchnogion CPD Wrecsam, Ryan Reynolds a Rob McElhenney, roi £10,000 i ymgyrch elusennol un o chwaraewyr y clwb.

Dechreuodd Jordan Davies, chwaraewr canol cae Wrecsam, a'i bartner Kelsey Edwards dudalen GoFundMe ar ôl marwolaeth eu mab, Arthur. 

Yn ôl WalesOnline, cafodd yr arian ei gyfrannu ar y dudalen, ynghyd â neges wedi’i lofnodi gan: “Rob, Kaitlin, Ryan a Blake”. 

Mae'r dudalen bellach wedi codi bron i £14,000 ar gyfer yr elusen SANDS (Stillbirth and Neonatal Death Society) sydd yn ceisio darparu cymorth i rieni sydd wedi colli babi. 

Darllenwch mwy yma.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.