Newyddion S4C

Ysbytai yn Lloegr yn datgan 'stad o argyfwng' yn sgil prinder staff

The Guardian 04/01/2022
Ysbyty yn brwydro yn erbyn Covid-19

Wrth i bobl y byd ddychwelyd i’r gwaith ac i fyd addysg yr wythnos hon, mae rhai o ysbytai Lloegr eisoes wedi datgan 'stad o argyfwng' yn sgil effaith Covid-19. 

Yn ôl The Guardian, mae dros hanner dwsin o ysbytai wedi cyhoeddi rhybuddion mewnol o "ddigwyddiadau critigol" yn sgil prinderau staff.

Dywedodd arweinwyr yn y sector iechyd bod y nifer cynyddol o staff y GIG yn Lloegr i ffwrdd o’r gwaith o ganlyniad i Covid-19 yn rhoi pwysau difrifol ar ysbytai. 

Mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol wedi ysgrifennu at weinidogion y llywodraeth yn Llundain, yn galw ar gyfyngiadau ychwanegol i leihau lledaeniad y feirws. 

Dywedodd y Prif Weinidog, Boris Johnson, ddydd Llun nad yw’r llywodraeth yn bwriadu cyflwyno unrhyw reolau newydd am y tro. 

Darllenwch y stori'n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.