Newyddion S4C

Lleihau gwasanaethau trên ymhellach yn sgil amrywiolyn Omicron

03/01/2022
Trên / Gorsaf / Caerdydd Canolog / Llun Trafnidiaeth Cymru

Mae gwasanaethau trên ar draws Cymru wedi eu lleihau ymhellach ddydd Llun yn sgil yr amrywiolyn Omicron.

Dywed Trafnidiaeth Cymru a Network Rail bod cynnydd sylweddol mewn absenoldebau staff o ganlyniad i'r don ddiweddaraf yn y pandemig.

Mae amserlen drenau dros-dro wedi bod mewn grym ers 22 Rhagfyr, oedd yn cyfateb i ostyngiad o 10-15% i'r amserlen arferol.

Ond wrth i absenoldebau staff gynyddu, mae Trafnidiaeth Cymru wedi penderfynu lleihau'r gwasanaethau ymhellach.

Mae'r amserlen newydd yn golygu gostyngiad pellach o 10-15% yn y gwasanaethau, gyda'r effaith fwyaf ar wasanaethau gyda lefel uchaf o absenoldebau staff.

Daw'r newid i rym wrth i wasanaethau trên leihau ar draws rhwydwaith reilffyrdd Prydain.

Mae pobl wedi'u hannog i wirio cyn teithio i sicrhau bod eu taith yn mynd yn ei blaen.

Fe fydd yr amserlen newydd yn parhau am yr wythnosau nesaf ond yn cael ei adolygu'n rheolaidd gan ddibynnu ar effaith yr amrywiolyn Omicron ar lefelau staffio.

Dywedodd Jan Chaudhry-Van de Velde, Rheolwr Gyfarwyddwr Trafnidiaeth Cymru nad oedd y penderfyniad yn un hawdd ac y bydd yr amserlen dros-dro yn dod i ben pan mae lefelau absenoldebau yn caniatáu.

Mae'r gyfradd o achosion Covid-19 yng Nghymru bellach wedi cyrraedd 1,415.4 - ei lefel uchaf erioed.

Omicron yw'r prif amrywiolyn yng Nghymru erbyn hyn ond mae rhai astudiaethau cynnar yn awgrymu bod symptomau'r amrywiolyn yn llai difrifol.

Llun: Trafnidiaeth Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.