Newyddion S4C

Yr actores Betty White, un o’r ‘Golden Girls’ wedi marw yn 99 oed

The Guardian 01/01/2022
BW

Mae’r actores Betty White oedd yn enwog am y sioeau comedi 'The Golden Girls' a’r 'Mary Tyler Moore Show' wedi marw yn 99 oed.

Bu farw yn ei chartref fore Gwener, dim ond pythefnos cyn ei phen-blwydd yn 100 oed.

Mae’r Arlywydd Joe Biden wedi arwain y teyrngedau iddi gan ddweud ei bod hi’n “eicon diwylliannol”.

Cafodd yr actores yrfa dros 80 o flynyddoedd ac roedd wedi ennill nifer o wobrau.

Roedd yn fwyaf adnabyddus am ei rôl fel Rose Nyland yn y sioe gomedi 'The Golden Girls' o’r 1980au.

Darllenwch y stori yn llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.