Pob oedolyn cymwys wedi cael cynnig brechlyn atgyfnerthu Covid-19 yng Nghymru
Mae pob bwrdd iechyd yng Nghymru wedi cadarnhau eu bod wedi cynnig apwyntiad brechlyn atgyfnerthu i bob oedolyn cymwys yn eu gofal cyn ddiwedd y flwyddyn.
Mae cynnig wedi’i wneud i unrhyw un sy'n gymwys drwy amrywiaeth o ddulliau gan gynnwys llythyrau, negeseuon testun, archebu ar-lein ac opsiynau galw heibio.
Mae mwy nag 1.5 miliwn o frechlynnau atgyfnerthu wedi'u rhoi hyd yma, gydag 81% o bobl dros 50 oed derbyn y dos atgyfnerthu.
Mae tua 80% o bobl a phlant 12 oed a hŷn yn gymwys i gael y pigiad atgyfnerthu ar hyn o bryd.
Diolch i’r GIG
O'r rheini, mae 71% eisoes wedi cael y frechlyn.
Bydd byrddau iechyd yn cysylltu â phawb na allent wneud eu hapwyntiadau y mis yma a gofyn iddynt aildrefnu ym mis Ionawr.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan: “Mae’r ymateb gan y cyhoedd wedi bod yn rhagorol ac rydym eisiau diolch i bawb a gadwodd eu hapwyntiad ac a dderbyniodd y cynnig i gael eu brechlyn atgyfnerthu.
“Diolch o galon hefyd i’n timau yn GIG Cymru, eu sefydliadau partner a’r holl wirfoddolwyr sydd wedi gweithio’n ddiflino drwy amser mor brysur i gyflawni’r dasg aruthrol hon.
“Dros gyfnod y Nadolig roeddem yn falch o weld cynnydd yn y bobl yn dod ymlaen i dderbyn eu dos cyntaf a’u hail ddos o'r brechlyn. Diolch i bawb sy'n dal i ddod ymlaen i gael eu brechu.”