Newyddion S4C

Gerwyn Price yn galw am ohirio Pencampwriaeth Dartiau'r Byd

30/12/2021
Gerwyn Price

Mae'r chwaraewr dartiau Gerwyn Price wedi galw ar drefnwyr Pencampwriaeth Dartiau'r Byd i ohirio'r ornest yn sgil cynnydd yn achosion o Covid-19 ymysg y chwaraewyr.

Mae nifer o chwaraewyr - gan gynnwys enwau adnabyddus fel Michael Van Gerwen a Vincent Van der Voort - eisoes wedi tynnu'n ôl o'r gystadleuaeth ar ôl profi'n bositif am y feirws. 

Mewn neges ar gyfryngau cymdeithasol ddydd Mercher, dywedodd Price fod yn "rhaid i'r gystadleuaeth cael ei gohirio."

"Dwi wedi bod yn eu safle nhw, a dwi'n cydymdeimlo gyda'r chwaraewyr sydd wedi gorfod tynnu allan," meddai. 

"Mae lot o waith caled yn mynd mewn i ddigwyddiadau fel Pencampwriaeth y Byd felly dydy gohirio ddim yr opsiwn orau, ond mae'n un nad ydw i yn anghytuno gyda hi."

Fe wnaeth Price, sy’n bencampwr y byd ac yn rhif un y byd, gadarnhau ei le yn wyth olaf y gystadleuaeth ar ôl trechu Dirk van Duijvenbode nos Fercher.

Fe gollodd y Cymro'r set gyntaf ond llwyddodd i frwydro'n ôl i sicrhau buddugoliaeth o 4-1.

Fe fydd Price yn wynebu Michael Smith yn y rownd gogynderfynol. 

Fe allai fod wedi bod yn rownd gogynderfynol o Gymry yn unig, ond colli wnaeth Jonny Clayton yn erbyn Michael Smith o 4-3 mewn gêm oedd yn gyfartal ar un cyfnod.

Fe gurodd Clayton, 47, y ddwy set gyntaf ond fe wnaeth Smith, 31, o Loegr ddod yn ôl gan ennill y tair oedd i ddilyn.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.