
Olion traed ar draeth yn Ne Cymru yn dystiolaeth o ddeinosoriaid enfawr
Mae cyfres o olion traed a ddarganfyddwyd gan aelod o’r cyhoedd ger Penarth yn awgrymu bod deinosoriaid mawr yn byw yng Nghymru dros 200 miliwn o flynyddoedd yn ôl.
Yn ôl arbenigwyr o'r Amgueddfa Hanes Naturiol, mae’r olion yn dystiolaeth o fodolaeth Sauropods, deinosoriaid gyda gwddf hir yn debyg i’r Diplodocus, yn ystod y cyfnod Triassig.
Daeth menyw leol, Kerry Rees o hyd i’r olion yn 2020 a daeth arbenigwyr i astudio’r safle a dadansoddi gwybodaeth gan wyddonwyr eraill cyn hynny.
Roedd rhai arbenigwyr yn meddwl bod yr olion o ganlyniad i hindreuliad naturiol ond nawr y dybiaeth yw taw olion traed deinosoriaid ydynt.
Mae’r siâp a’r maint yn awgrymu eu bod nhw’n perthyn i ddeinosor mawr y Sauropod.
Er na ellir cysylltu’r olion gyda dosbarth arbennig o ddeinosoriaid, mae’r olion yn debyg i ffosiliau Camelotia, deinosor o’r Triassig a ddarganfyddwyd yn Ne Orllewin Lloegr.

Dywedodd ymwchilwyr yr amgueddfa bod nifer yr olion a’r gwahanol faint yn awgrymu fod nifer ohonyn nhw wedi ymgynnull yn yr un ardal.
Ychwanegodd yr athro Paul Barrett: “Mae yna awgrym o lwybrau ac olion gan anifeiliaid unigol yma, ond oherwydd bod gymaint o olion o wahanol faint, rydym yn credu bod mwy nag un ohonyn nhw.
“Mae’r math yma o olion yn anghyffredin ledled y byd, felly rydym yn credu bod hyn yn ychwanegu tipyn at ein gwybodaeth o fywyd y Triassig yn y DU."
Cafodd canfyddiadau’r astudiaeth eu cyhoeddi yng nghylchgrawn Geological.
Er bod cyflwr yr olion yn ei gwneud hi’n anodd asesu os ydyn nhw wedi eu creu gan fwy nag un math o anifail, gall gwyddonwyr ddod i nifer o gasgliadau.
Technegau ymchwil modern
Defnyddiodd ymchwilwyr dechnegau 3D er mwyn creu mwy o fanylder i’r olion er mwyn eu hastudio.
Dywedodd Dr Peter Falkingham, un o awduron yr astudiaeth: “Mae rhai o’r olion yma sy’n edrych fel olion traed yn gallu cael eu creu gan hindreuliad naturiol neu gemegol yn y graig.
"Ond roedd y dystiolaeth yn dangos taw olion traed anifeiliaid dwy goes a’u creodd a bod nifer ohonyn nhw wedi ymgynnull yno.
"Mae eu sefyllfa yn y graig yn awgrymu eu bod nhw’n dyddio nôl rhwng 237 miliwn a 201 miliwn o flynyddoedd yn ôl i’r cyfnod Triassig.”
Mae’r gwyddonwyr yn gadael yr olion yn y ddaear am nawr oherwydd gall eu symud oddi yno eu difrodi yn sylweddol.
Am ragor o fanylion ewch yma.