
Pryder y bydd pobl yn croesi Clawdd Offa i ddathlu'r Flwyddyn Newydd

Pryder y bydd pobl yn croesi Clawdd Offa i ddathlu'r Flwyddyn Newydd
Mae pryderon y bydd rhai pobl sy'n byw ger y ffin â Lloegr yn croesi Clawdd Offa i ddathlu'r Flwyddyn Newydd.
Mae’r diwydiant lletygarwch yng Nghymru yn wynebu rheolau o’r newydd wedi i Lywodraeth Cymru gyflwyno mesurau i ymateb i ledaeniad amrywiolyn Omicron.
Ers Gŵyl San Steffan mae’r rheol “chwe pherson” yn ôl, yn ogystal â rheidrwydd i gadw pellter cymdeithasol a gwisgo mygydau.
Yr ochr arall i Glawdd Offa, nid oes cyfyngiadau o gwbl wedi eu rhoi ar waith i’r diwydiant lletygarwch.
Mae Ysgrifennydd Iechyd Lloegr Sajid Javid wedi dweud na fydd unrhyw fesurau newydd yn cael eu cyflwyno yno “cyn y flwyddyn newydd”.

Mae rhai busnesau yn agos i’r ffin yn pryderu y bydd rhai pobl yn teithio i Gaer a threfi eraill yn Lloegr i ddathlu’r flwyddyn newydd, yn hytrach na gwario arian gyda nhw.
Dywedodd Mark Finlay o Dafarn y Fat Boar: “Dwi’n meddwl mai’r Flwyddyn Newydd fydd y prawf go iawn.
“Mae rhai sylwadau wedi dod gan gwsmeriaid yn dweud y byddan nhw’n siŵr o ddod yma am bryd o fwyd ac yna teithio i Gaer er mwyn iddyn nhw ddathlu go iawn, yn eu geiriau nhw.
“Mae hynny braidd yn rhwystredig fel mae’n siŵr y gallwch ddeall ond does dim llawer y gallwn ni wneud am hynny.”
'Gorfod gohirio'
Yn nhafarn y Saith Seren yn Wrecsam, y gobaith yw mai mesurau yn y tymor byr fydd y rhain.
Dywedodd Chris Evans o’r dafarn wrth Newyddion S4C: “Fyddwn ni lawr ymhell dros 50% dwi’n siŵr os nad fwy na hynny.
“O’dd ganddon ni digwydd bod mis Ionawr eitha’ cymharol brysur wedi trefnu gyda Dafydd Iwan yn dod yma i ddathlu’r Hen Galan ganol y mis – ‘dan ni ‘di gorfod gohirio neu canslo hwnna.
“Ma’ ‘na rhan optimistaidd ohonai yn gobeithio bydd pethau ‘nôl i normal erbyn diwedd y mis”.

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod wedi penderfynu gweithredu yn sgil lledaeniad cyflym amrywiolyn Omicron.
Roedd 1,004.1 achos i bob 100,000 o’r boblogaeth yng Nghymru rhwng 17 a 23 Rhagfyr.
Dyna’r gyfradd uchaf o achosion drwy gydol y pandemig yn y wlad.
Mae’r Llywodraeth hefyd yn dweud fod absenoldebau staff yn sgil yr amrywiolyn newydd yn rhoi straen ychwanegol ar wasanaethau allweddol.