Gwyddonwyr yn ‘dadlapio’ mymi o Pharo’r Aifft yn ddigidol am y tro cyntaf

Mae corff mymiedig o Pharo Amenhotep I o’r Aifft wedi ei weld am y tro cyntaf ers canrifoedd ar ôl cael ei “ddadlapio” yn ddigidol gan dechnoleg arloesol.
Dros y blynyddoedd mae ymchwilwyr wedi gwrthod dadorchuddio’r corff hynafol oherwydd ei fod wedi’i addurno gyda garlantau blodau a gorchudd wyneb a cherrig lliwgar.
Ond maent wedi gallu gweld y corff am y tro cyntaf diolch i dechnoleg newydd tri dimensiwn sy’n sganio’r corff ar gyfrifiadur.
O dan yr holl haenau, mae ymchwilwyr wedi gallu dod o hyd i fanylion am ei ymddangosiad ynghyd a’r gemwaith unigryw a bonheddig y cafodd ei gladdu ynddo.
Roedd ymchwilwyr yn gwybod fod y mymi wedi ei ddadlapio unwaith yn barod yn yr 11eg ganrif – dros bedair canrif ar ôl iddo gael ei fymeiddio a’i gladdu yn wreiddiol.
Yn ôl yr ymchwilwyr, mae’r dadorchuddio yn dangos fod Amenhotep I yn tua 35 mlwydd oed pan fu farw, yn 169cm o dal, ac roedd ganddo ddannedd da.
Darllenwch y stori’n llawn yma.